Addysg Ôl-16

Adrodd yn ôl yn dilyn cyfnod yr Ymgysylltu Anffurfiol

Cafwyd caniatâd gan y Cabinet yn ei gyfarfod ar 7 Mawrth 2023 i wneud gwaith pellach gyda rhanddeiliaid sy’n ffurfio Consortiwm Addysg ôl-16 Gwynedd ac Ynys Môn er mwyn datblygu modelau posib ar gyfer addysg ôl-16 yn Arfon. Erbyn heddiw mae ffactorau newydd angen eu hystyried ers y trafodaethau gwreiddiol, ac felly bwriedir bwrw ati’n syth gyda’r gwaith o edrych ar y gyfundrefn bresennol ac ystyriaethau allweddol er mwyn cryfhau’r ddarpariaeth ôl-16 yn Arfon.  

Rydym yn awyddus i glywed eich barn ar y gyfundrefn addysg ôl-16 yn Arfon, er mwyn gweld sut gellir sicrhau cyfundrefn addysg ôl-16 i’r dyfodol fydd yn cynnig tegwch a chefnogaeth gref i bob person ifanc i lwyddo a gwireddu eu potensial.

 

Cefndir

Mae’r tirlun ar gyfer addysg ôl-16 yng Nghymru’n newid. Mae Cyngor Gwynedd yn awyddus felly i ystyried oes lle i wella’r ddarpariaeth yn ardal Arfon o’r sir.

Nod y gwaith yma yw gweld sut gellir sicrhau cyfundrefn addysg ôl-16 i’r dyfodol fydd yn cynnig tegwch a chefnogaeth gref i bob person ifanc i lwyddo a gwireddu eu potensial.

Meddai Garem Jackson, Pennaeth Addysg Cyngor Gwynedd:

“Does dim newid sylweddol wedi bod ym mhatrwm addysg ôl-16 yn ardal Arfon ers peth amser. Gyda thirlun addysg ôl-16 yn newid ar draws Cymru, mae’n amserol felly i ni gymryd cam yn ôl er mwyn gweld os ydi’r sefyllfa bresennol yn cyfarch anghenion ein pobl ifanc yn llawn.

 “Trwy gynnal sgwrs agored rydym yn awyddus i weld pa agweddau o’r drefn bresennol sy’n gweithio’n dda a beth allwn ni ei wneud yn well i sicrhau cyfundrefn arloesol sy’n cynnig y gorau i bob dysgwr.

 “Yn fwy na dim, rydym am ganfod ateb i’r cwestiwn ‘Beth sydd angen ei wneud i sicrhau fod y drefn yma yng Ngwynedd yn galluogi pob un o’n dysgwyr i gyflawni eu potensial?’.”

Dywedodd y Cynghorydd Cemlyn Rees Williams, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Gwynedd:

“Ein gweledigaeth ydi sicrhau system addysg ôl-16 sy’n wirioneddol cyfarch anghenion pob un o’n dysgwyr.

“Wrth gwrs, mewn cyfnod arferol, byddai cyfarfodydd wyneb yn wyneb yn cael eu cynnal, ond er y sefyllfa sydd ohoni rydym yn bwriadu cynnal cyfarfodydd rhithwir er mwyn gallu dod ynghyd ar y we i drafod a gwyntyllu syniadau er budd ein pobl ifanc.

“Rydym yn awyddus i gael sgwrs agored i weld beth sydd gan bobl ifanc yr ardal i’w ddweud, ac rydym hefyd am glywed barn rhieni, staff, llywodraethwyr ac unrhyw un sydd â diddordeb yn y maes.

“Ein bwriad ydy cynnal sesiynau rhithwir efo dysgwyr, rhieni, staff a llywodraethwyr yn ystod yr wythnosau nesaf er mwyn rhoi cyfle iddynt leisio eu barn a gofyn unrhyw gwestiynau.”

 

Y broses ymgysylltu anffurfiol 

Pwrpas yr ymgysylltu anffurfiol yma yw rhoi cyfle i’r holl ran-ddeiliaid a’r cyhoedd gyflwyno sylwadau a syniadau ynglŷn â’r gyfundrefn addysg ôl-16 yn Arfon, o fewn cyd-destun gweledigaeth ac amcanion y Cyngor.

Er mwyn cefnogi’r ymgysylltu, bwriedir cynnal cyfarfodydd rhithiol hefo dysgwyr, rhieni, staff a llywodraethwyr yn ystod y cyfnod er mwyn rhoi cyfle iddynt leisio eu barn a holi unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r maes. Bydd rhagor o wybodaeth am y sesiynau rhithiol ar gael yn fuan.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn sylwadau yw dydd Mawrth, 22 Rhagfyr 2020. 

 

 

Sut i gyfrannu? 

Os hoffech gyfrannu at yr ymgysylltu, lawrlwythwch y ffurflen ymatebcwblhewch hi erbyn dydd Mawrth 22 Rhagfyr 2020 a'i hanfon drwy:

  • E-bost: ol16@gwynedd.llyw.cymru.
  • Post:
    Swyddfa Moderneiddio Addysg
    Cyngor Gwynedd
    Stryd y Jêl
    Caernarfon
    Gwynedd
    LL55 1SH 

Rydym hefyd yn croesawu sylwadau neu syniadau cyffredinol ynglŷn a’r gyfundrefn Addysg Ôl-16 yn Arfon. Gallwch anfon eich sylwadau dros e-bost at ol16@gwynedd.llyw.cymru neu drwy’r post at:

Swyddfa Moderneiddio Addysg
Cyngor Gwynedd
Stryd y Jêl
Caernarfon
Gwynedd
LL55 1SH

 

Dogfennau cefndirol

Fersiynau plant a phobl ifanc

Gyda disgwyliadau Llywodraeth Cymru yn newid ym maes addysg ôl-16, mae Cyngor Gwynedd yn awyddus i ystyried oes lle i wella’r ddarpariaeth yn ardal Arfon o’r sir.

Mae adroddiad fydd y cael ei ystyried gan Gabinet Cyngor Gwynedd ar 10 Mawrth yn gofyn am ddechrau trafodaethau lleol yn ystod tymor yr haf 2020. Byddai hyn yn cynnwys cyfres o weithgorau gyda chynrychiolaeth o ran-ddeiliaid addysg ôl-16 Arfon, yn cynnwys llywodraethwyr, penaethiaid, athrawon a dysgwyr.

Nod y gwaith yma fydd gweld sut gellir sicrhau trefn addysg ôl-16 i’r dyfodol fydd yn cynnig tegwch a chefnogaeth gref i bob person ifanc yn y sir i lwyddo a gwireddu eu potensial.

Meddai Garem Jackson, Pennaeth Addysg Cyngor Gwynedd:

“Does dim newid sylweddol wedi bod ym mhatrwm addysg ôl-16 ardal Arfon ers 40 mlynedd. Gyda thirlun addysg ôl-16 yn newid ar draws Cymru, mae’n amserol felly i ni gymryd cam yn ôl er mwyn gweld os ydi’r sefyllfa sydd ohoni yn cyfarch anghenion ein pobl ifanc yn llawn.

“Trwy gynnal sgwrs agored rydym yn awyddus i weld pa agweddau o’r drefn bresennol sy’n gweithio’n dda a beth allwn ni ei wneud yn well i sicrhau cyfundrefn arloesol sy’n cynnig y gorau i bob dysgwr.

“Yn fwy na dim, rydym am ganfod ateb i’r cwestiwn ‘beth sydd angen ei wneud i sicrhau fod y drefn yma yng Ngwynedd yn galluogi pob un o’n dysgwyr i gyflawni eu potensial?’.”

 

Mwy o wybodaeth: