Cartref > Trigolion > Ysgolion a dysgu > Moderneiddio Addysg

Moderneiddio Addysg

Pwrpas yr Adran Addysg ydi hyrwyddo cyflawniad a lles plant a phobl ifanc Gwynedd drwy sicrhau llywodraethiant, arweinyddiaeth a rheolaeth effeithiol ein hysgolion. Mae’r tîm Moderneiddio Addysg yn anelu i wireddu cyfres o brosiectau i gyrraedd at ddyheadau y Strategaeth Addysg.  

 

Cipolwg o'n prosiectau 

Ysgol Treferthyr, Cricieth

Buddsoddiad: £8 miliwn
Statws: Ar waith

03.08 (5)

Mae gwaith adeiladu ysgol newydd sbon yng Nghricieth ar y gweill wedi i Gyngor Gwynedd sicrhau buddsoddiad o ychydig dros £8 miliwn drwy Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Lywodraeth Cymru a chyfraniad cyllidol y Cyngor. Bydd yr ysgol newydd yn cynnig 150 o lefydd yn ogystal ag Uned Blynyddoedd Cynnar ac Uned Asesu Dysgu Ychwanegol. Rydym yn anelu at agor yr ysgol ar 1 Medi 2024. Mwy am y prosiect hwn yma.

 

Ysgol Bontnewydd

Buddsoddiad: £12 miliwn
Statws: Cychwynnol

Mae Cyngor Gwynedd wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru am fuddsoddiad o bron i £12 miliwn er mwyn codi ysgol newydd sbon yn Y Bontnewydd ynghyd ag adnoddau cymunedol o’r radd flaenaf. Bydd ei chynllun, ei hadeiladwaith a'r elfennau o'i chwmpas yn adlewyrchu dyheadau Cyngor Gwynedd i fod yn arloesol, yn flaengar, yn gyfoes ac yn amgylcheddol gyfeillgar. 

 

Ysgol Y Garnedd, Bangor

Buddsoddiad: £12.7 miliwn
Statws: Cwblhawyd

Ysgol y Garnedd 1
      

 

Ym mis Tachwedd 2020 cafodd drysau newydd Ysgol Y Garnedd eu hagor ar ôl derbyn buddsoddiad o £12.7 miliwn gan Gyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru. Mae'r ysgol newydd yn darparu addysg ar gyfer disgyblion Ysgolion y Garnedd, Glanadda a Babanod Coed Mawr a bellach yn cynnig lle i 420 o blant.  

 

Ysgol Godre’r Berwyn, Bala

Buddsoddiad: £10.27 miliwn 
Statws: Cwblhawyd

Ysgol Godre'r Berwyn
      

 

Mae’r ysgol gydol-oes (3-19 oed) hon wedi agor ers mis Medi 2019. Cafodd tair ysgol eu huno, sef Ysgol Bro Tegid ac Ysgol Beuno Sant ynghyd ag Ysgol Uwchradd Y Berwyn. Mae'r ysgol newydd yn cynnig lle i hyd at 560 o ddisgyblion, gyda dosbarth ar gyfer plant oed meithrin 3-4 oed.

Ar y campws newydd mae adnoddau pwrpasol ar gyfer y celfyddydau sy’n cynnwys stiwdio ddawns a theatr sydd â thaflunydd digidol i ddangos ffilmiau. Mae yno hefyd gae chwaraeon 3G, a llyfrgell.  

 

Ysgol Glancegin, Bangor

Buddsoddiad: £5.1 miliwn
Statws: Cwblhawyd

Ysgol Glancegin
      

 

Mae Ysgol Glancegin wedi cael ysgol newydd sbon sy'n gwasanaethu plant o ardal Maesgeirchen, Bangor. Cafodd yr ysgol newydd ei hagor ym mis Medi 2017 a chwmni ‘Wynne Construction’ o Ogledd Cymru oedd yn gyfrifol am yr adeiladu. Mae'r dyluniad terfynol yn cynnwys syniadau gan ddisgyblion, staff ac aelodau o'r gymuned er mwyn gwneud yn siŵr fod yr ysgol yn darparu lle priodol a digonol i gyflwyno pob agwedd o’r cwricwlwm. Mae'r ysgol newydd yn cynnig gofod ychwanegol i gefnogi ymyriadau arbenigol ac yn gallu cynnig lle i 280 o blant.   

 

Ysgol Bro Llifon, Y Groeslon

Buddsoddiad: £4.48 miliwn
Statws: Cwblhawyd

Ysgol Bro Llifon
      

 

Yn dilyn buddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Gwynedd, bu i'r ysgol ardal agor ym mis Medi 2015. Mae Ysgol Bro Llifon yn gwasanaethu ardaloedd Y Groeslon, Carmel a’r Fron. Cwmni lleol Watkin Jones gafodd y gwaith o adeiladu'r ysgol a'i dyluniwyd o gwmpas yr adeilad gwreiddiol. Mae lle i hyd at 180 o blant yn yr ysgol newydd. 

 

Ysgol Hafod Lon

Buddsoddiad: £13 miliwn 
Statws: Cwblhawyd

Ysgol Hafod Lon Newydd
      

 

Mae ysgol newydd Hafod Lon wedi ei lleoli ym Mhenrhyndeudraeth ac mae’n cymryd lle’r cyn ysgol yn Y Ffôr ger Pwllheli. Mae Ysgol Hafod Lon yn cynnig addysg i hyd at 100 o blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol o ardaloedd Dwyfor a Meirionnydd.

Mae’r ystafelloedd dosbarth modern yn cynnwys yr adnoddau diweddaraf sy'n cynnwys pwll hydro therapi, ystafelloedd therapi, offer synhwyraidd, ardal chwarae awyr agored ac uned breswyl egwyl fer. Mae gardd a chaffi hefyd yn rhan o'r ysgol, sy'n darparu amgylchedd ar gyfer disgyblion hŷn i ddatblygu eu sgiliau menter a busnes. 

 

Ysgol Bro Idris, Meirionnydd

Buddsoddiad: £4.84 miliwn  
Statws: Cwblhawyd

Mae Ysgol Ddilynol Bro Idris (3-16 oed) wedi ei hagor ers Medi 2017. Mae 5 safle i’r Cynradd gyda safleoedd yn Rhyd y Main, Dinas Mawddwy, Cynradd Dolgellau, Llanelltud a Friog yn ogystal â phrif safle Uwchradd yn Nolgellau. Cafodd Ysgol y Gader, Ysgol Gynradd Dolgellau, Ysgol Brithdir, Ysgol Ieuan Gwynedd, Ysgol Dinas Mawddwy, Ysgol Llanelltud, Ysgol Friog, Ysgol Clogau, ac Ysgol Ganllwyd eu cau ar 31 Awst 2017, ac Ysgol Llanfachreth yn cau ar 31 Awst 2016.   

 

Cysylltu â ni

ModerneiddioAddysg@gwynedd.llyw.cymru 

 

 

Logo Cymunedau Dysgu Cynaliadwy
      

 

 

 

Mwy…