Mae Cyngor Gwynedd ar y cyd ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn bwriadu adolygu’r Cynllun Gwella Hawliau Tramwy (CGHT).
Dogfen strategol yw’r CGHT i’w defnyddio gan Awdurdodau Lleol er mwyn cynllunio ar gyfer rheoli, datblygu a hyrwyddo eu rhwydwaith hawliau tramwy. Bydd y CGHT yn gosod fframwaith ar gyfer adnabod, blaenoriaethu a chynllunio ar gyfer gwelliannau i’r rhwydwaith hawliau tramwy a mynediad i gefn gwlad er budd cerddwyr, beicwyr, marchogwyr, unigolion sydd â phroblemau symudedd ac eraill.
Mae Hawliau Tramwy yn cynnwys llwybrau troed, marchogaeth a chilffyrdd (lonydd cul fel arfer, yn aml heb wyneb), ond nid ydynt yn cynnwys ffyrdd.
Fel rhan o’r adolygiad, rydym yn awyddus i gael eich barn i’n cynorthwyo i gynllunio ar gyfer sut gallwn wella a chynnal y rhwydwaith Hawliau Tramwy yng Ngwynedd.
Bydd y wybodaeth ganlynol am y drefn o gategoreiddio llwybrau yn ddefnyddiol wrth i chi ymateb i rai o’r cwestiynau.
Y System Gategoreiddio
Mae’r drefn hon o gategoreiddio hawliau tramwy wedi cael ei mabwysiadu gan Gyngor Gwynedd er mwyn helpu blaenoriaethu adnoddau tuag at gynnal y rhwydwaith hawliau tramwy. Mae mwyafrif o hawliau tramwy’r sir yn disgyn i un o bedwar categori. Ar hyn o bryd mae’r Cyngor yn rhoi blaenoriaeth i lwybrau yng nghategorïau 1 a 2 sef oddeutu 45% o’r rhwydwaith.
Categori 1
Mae’r mwyafrif o’r llwybrau hyn eisoes yn cael eu defnyddio’n helaeth ac yn ffurfio cysylltiadau o fewn trefi, pentrefi neu rhwng cyfleusterau trafnidiaeth gyhoeddus, meysydd parcio ac atyniadau.
Maent yn cynnwys:
- Llwybrau a theithiau sy’n cael eu hyrwyddo gan Gyngor Gwynedd a’r Parc Cenedlaethol gan gynnwys y Llwybr Arfordir
- Llwybrau sy’n cysylltu ardaloedd trefol neu lwybrau o fewn ardaloedd trefol
- Y rhwydwaith Lonydd Glas a llwybrau sydd â photensial uchel i’w datblygu i fod yn llwybrau “Teithio Llesol”.
Categori 2
Llwybrau poblogaidd a ddefnyddir yn bennaf er pleser gan gynnwys llwybrau o amgylch cymunedau, teithiau cylch neu fynediad i dir agored neu draethau.
Mae’r rhain yn cynnwys:
- Llwybrau sy’n cael eu hyrwyddo gan Gyngor Gwynedd, y Parc Cenedlaethol a mudiadau cymunedol gan gynnwys y Cynghorau Cymuned
- Llwybrau sy’n llai tebygol o fod yn addas ar gyfer eu datblygu i fod yn llwybrau “Teithio Llesol”.
Categori 3
Llwybrau nad ydynt yn cael eu defnyddio’n aml yw’r rhain, ond sydd er hynny yn ffurfio cysylltiadau rhwng llwybrau yng nghategorïau 1 a 2. Maent yn llwybrau sydd a’r potensial i’w defnyddio i annog cerdded rhwng cymunedau neu i ffurfio rhan o daith y gellir ei hyrwyddo yn y dyfodol.
Categori 4
Llwybrau heb unrhyw ddefnydd na photensial amlwg lle ceir dewis amgen cyfagos o lwybrau mewn categorïau uwch. Fel arfer nid oes iddynt fawr ddim potensial i greu cysylltiadau defnyddiol nac i ffurfio rhan o daith i’w hyrwyddo. Maent hefyd yn cynnwys llwybrau sydd ag amheuaeth ynglŷn â’u statws a hynny’n annhebygol o gael ei ddatrys.