Casglu gwastraff swmpus

Os ydych angen cael gwared o eitemau mawr (e.e. soffa neu rewgell) gallwch drefnu casgliad gwastraff swmpus.


Y ffordd gyflymaf a symlaf i drefnu casgliad yw ar-lein:

Trefnu casgliad swmpus ar-lein

Gweld telerau ac amodau gwastraff swmpus

(Rhaid creu cyfrif os nad oes ganddoch chi un yn barod)


Pris casgliadau:  

  • Hyd at 5 eitem: £31
  • Hyd at 10 eitem: £62

 

Cyn gwneud archeb edrychwch ar y rhestr isod i wneud yn siŵr ein bod yn casglu y math o eitem sydd gennych. Os nad yw’r eitem ar y rhestr cysylltwch â ni i holi.

Nwyddau Gwyn

rhewgell Americanaidd
popty
hwd Popty
dadleithydd
peiriant gochi llestri
rhewgell
oergell
popty ping
Troellwr sychu dillad
Sychwr dillad
Golchwr/ sychwr dillad
Peiriant golchi dillad

Trydanol
Cyfrifiaduron, sgrin ac argraffwyr
gwresogydd
system gerddoriaeth/ hi-fi
peiriant pŵer e.e. dril
peiriant gwnio
eitem trydanol bach 
lamp
hŵfyr
peiriant fideos/ dvd
Bocs sky

Dodrefn Tŷ
sofa
cadair freichiau
ffram gwely
cabinet ochr gwely
mainc
cwpwrdd llyfrau
desg
cadair
cadair (ystafell fyw)
cadair siglo
chaise lounge
droriau cist
bwrdd coffi
cadair cyfrifiadur
desg cyfrifiadur
silff gongl
cot
cadair ystafell fwyta
bwrdd bwyd
cabinet gwydr (rhaid diogelu'r gwydr)
bwrdd gwisgo
drych
stôl
pen gwely
cwpwrdd cegin
bwrdd cegin
matras (dwbl)
matras (sengl)
nyth o fyrddau
otoman
pwffi
ryg
silffoedd
seldfwrdd
bwrdd ffôn
trwnc
cabinet teledu
stand teledu
isgarped 
rol o garped
cwpwrdd dillad (dwbl) heb ddrych
cwpwrdd dillad (sengl) heb ddrych
cwpwrdd dillad (mawr) heb ddrych
dresel Gymreig

Ystafell Ymolchi
bath
gwaelod cawod
sinc
pen cawod a bocs cawod
toiled
sgrin cawod
bidet

Gardd
barbaciw
beic (oedolyn)
beic (plentyn)
offer gardd - mainc
offer gardd (bwrdd a cadeiriau)
sleid plant
pwll nofio plastig plant
ochr sied gardd
cwt/ cawell anifail bach
trampolîn
berfa
peiriant torri gwair trydanol (nid petrol)

 

Amrywiol
stôl uchel
bar
comôd
offer ymarfer corff
cabinet ffeilio mawr
cabinet ffeilio bach
amgylchyn tân
gwarchodwr tân
tanc pysgod (gwag)
cloc mawr
cadair uchel
drysau tu mewn
drych
rac papur
llun/ canfas
pot planhigyn
pram
gorchudd gwresogydd
ceffyl siglo
sychwr troi 
giat grisiau
ysgol fach
piano (dim grand piano)
drws mewnol neu allanol

  • gwastraff adeiladwyr
  • gwastraff gardd (rhowch hwn yn y bin brown neu ewch ag o i'ch canolfan ailgylchu leol)
  • gwastraff tŷ dros ben (ewch â hwn i'ch canolfan ailgylchu leol)
  • gwastraff clinigol (mae trefniant arbennig ar gyfer gwastraff clinigol - ewch i Beth sy'n mynd i pa fin am ragor o wybdoaeth)

 

 

Gweld telerau ac amodau


Sut mae gwneud cais:

Trefnu casgliad swmpus ar-lein

Gallwch hefyd archebu drwy ffonio 01766 771000 a thalu gyda cherdyn debyd neu gredyd, neu drwy fynd draw i un o Siopau Gwynedd a thalu gyda siec. 


Cofiwch y gallwch fynd ag unrhyw eitemau mawr neu drydanol i'r canolfannau ailgylchu yn rhad ac am ddim.