Gwasanaethau Teg i Bawb

Mae'r cyfnod ymgynghori wedi dod i ben. Bydd y canlyniadau ar gael cyn bo hir.

Cyngor Gwynedd yn cynnal ymgynghoriad ar ei wasanaethau

Mae Cyngor Gwynedd wedi cynnal ymgynghoriad i weld pa mor hygyrch a theg yw ei wasanaethau er mwyn eu gwella i’r dyfodol.

Bydd canfyddiadau’r ymarferiad yn sail ar gyfer sut mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu haddasu a’u datblygu i’r dyfodol er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn ateb gofynion y bobl sy’n eu defnyddio.

Mae Cyngor Gwynedd yn cynnig nifer fawr o wasanaethau i bobl Gwynedd – o wasanaethau sy’n gyfarwydd i bawb fel casglu gwastraff ac ailgylchu, i wasanaethau arbenigol sydd berthnasol i grwpiau penodol o bobl fel y gwasanaeth digartrefedd. Beth bynnag ydi’r gwasanaeth rhaid i ni osgoi sefyllfa lle nad ydi rhai pobl yn gwneud defnydd ohonynt am oherwydd rhwystrau.

Yn ogystal, Cyngor Gwynedd ydi un o gyflogwyr mwyaf y sir, gyda oddeutu 7,000 yn gweithio i’r sefydliad at ei gilydd. Mae’r Cyngor eisiau gwneud yn siŵr fod y gweithlu yn adlewyrchu’r boblogaeth leol a nad oes rhwystrau yn atal amrediad o bobl o bob cefndir rhag dewis ceisio am swyddi.