Prosiect Gofal Cartref

Rydan ni am wneud yn siŵr fod y gofal a’r gefnogaeth sydd ar gael i oedolion yn eu cartrefi yn eu helpu i fyw y bywyd gorau bosib o fewn eu cymuned.

 

Mae pob unigolyn yn unigryw. Rydan ni eisiau cefnogi pobl i allu gwneud y pethau sy’n bwysig iddyn nhw fel unigolion. I wneud hyn mae’n rhaid i staff:

  • gael y cyfle i ddod i nabod a deall y bobl maen nhw’n gofalu amdanynt
  • gael yr hawl i wneud be sy’n iawn
  • ofyn am gefnogaeth o lefydd eraill pan fydd angen hynny.

Fel rhan o'r cynllun newydd, rydan ni am sicrhau: 

  • Bydd y gofal yn cael ei drefnu ar lefel gymunedol. Dim ond un neu ddau o ddarparwyr gofal fydd yn gweithio fesul ardal. Bydd gwasanaeth mewnol y Cyngor yn gweithio mewn rhai ardaloedd, a darpariaeth annibynnol mewn ardaloedd eraill.
  • Bydd ansawdd y gofal a thelerau staff yn fwy cyson ar draws y sir. Bydd y gwaith o drefnu’r gofal a recriwtio staff yn dod yn haws, ac yn digwydd yn lleol fesul ardal.
  • Bydd y gwasanaeth mae unigolion yn ei dderbyn heddiw’n parhau, a bydd pobl yn derbyn gofal cartref tra byddant angen y gefnogaeth.

Gwyliwch y fideo i ddeall mwy am y model gofal cartref newydd: 

 

Mae prinder gofal mewn sawl ardal o’r Sir. ‘Rydan ni hefyd yn gwybod bod y gwasanaeth sy’n cael ei gynnig yn tueddu i fod yn gylch o dasgau penodol, i’w cyflawni ar amseroedd penodol o’r dydd - pethau fel help i godi, ymolchi, gwisgo a bwyta. Does dim llawer o le i wneud pethau gwahanol a allai wneud gwahaniaeth go iawn i ansawdd bywyd rhywun.

Ar ben hynny mae’r cwmnïau sy’n darparu’r gofal yn tueddu i weithio ar hyd a lled y sir, ac yn aml fe welwch sawl gweithiwr gofal o gwmnïau gwahanol ar yr un stryd!

Map ardaloedd gofal newydd

Mae Cyngor Gwynedd yn cydweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar y newidiadau yma, a byddwn yn comisiynu’r gofal fesul ardal ar y cyd. Mae’r holl staff iechyd a gofal cymdeithasol sy’n gweithio o fewn yr ardaloedd yma yn rhan o’r trefniadau newydd.

Bydd y prosiect yma’n gwella’r ffordd mae pobl hyn, oedolion sydd ag anableddau neu sy’n dioddef cyflyrau iechyd meddwl yn derbyn cymorth i fyw gartref yng Ngwynedd.

Mae’r model newydd wedi ei dreialu mewn ardaloedd ar hyd a lled Gwynedd dros y 4 blynedd ddiwethaf gan ganolbwyntio ar agweddau penodol o’r model:

  • Ffiniau ardal: Gweithio o fewn ardal lai gyda ffiniau daearyddol penodol.
  • Strwythur Tîm Adnoddau Cymunedol: Darparwyr gofal yn dod yn aelodau actif o’r Tîm Adnoddau Cymunedol yn lleol, rhannu gwybodaeth a meithrin parch.
  • Contract Bloc: Darparwyr yn cael eu comisiynu ar sail bloc penodol o oriau mewn ardal benodol er mwyn hwyluso cynllunio eu busnes - yn hytrach na thalu fesul pecyn
  • Shifftiau bloc: Cynllunio 'rota' staff ar sail shifftiau bloc - bore neu’r hwyr. Staff yn cael eu talu am amser trafeilio ac amser cyswllt.
  • Timau bach: Timau bach o staff yn hunan reoli eu hamser ar sail anghenion yr unigolyn, y gymuned a’r tîm. Mwy o hyblygrwydd o ran ymateb i ddymuniadau, a chysondeb o ran gofalwyr.
  • Symud oddi wrth dasgau ac amser penodol: Gwaith ar sail be fyddai’n gwella bywyd yr unigolyn, yn hytrach na gwneud tasgau penodol. Dynodi nifer o oriau'r wythnos, heb fanylu ar nifer ac amseriad galwadau.

Bydd yr adroddiad terfynol sydd yn crynhoi profiadau’r ardaloedd peilot ar gael yma yn fuan.

Mae angen cynnal proses dendro i benderfynu pa ddarparwyr fydd yn derbyn contract ymhob is-ardal. Agorwyd y broses dendro ar 8 Ebrill 2022. Dyma’r amserlen fanwl: 

Cam

Dyddiad

1

Agor y broses dendro

8 Ebrill 2022

2

Cyflwyno tendr

Mai 2022

3

Cyfweliadau darparwyr

Diwedd Mai 2022

4

Llythyrau, adborth a chyfnod ystyried

Mehefin 2022

5

Gwobrwyo contractau newydd

Gorffennaf 2022

6

Cyfnod trosglwyddo darparwyr

Gorffennaf ymlaen - am o leiaf 6 mis

7

Sefydlu’r model gweithredu newydd

Awst ymlaen


Bydd unigolion sy’n derbyn gwasanaeth gofal cartref a’u teuluoedd yn derbyn gwybodaeth yn rheolaidd am ein cynlluniau. Os bydd y broses dendro’n golygu unrhyw newid iddynt o ran natur eu gofalwyr, byddwn yn rhannu gwybodaeth a thrafod gyda nhw mewn da bryd.

Bydd pob cefnogaeth yn cael ei ddarparu drwy’r timau iechyd a gofal cymdeithasol lleol i unrhyw un fydd yn cael ei effeithio gan y newidiadau yma.

Rydym yn gwerthfawrogi’r holl staff iechyd a gofal sy'n gweithio yn y sir, ac mae eu swyddi’n hanfodol ac yn ddiogel. Bydd pobl sy’n derbyn gofal cartref heddiw’n derbyn gofal cartref tra byddwch angen y gefnogaeth.

Mae gennym ddyletswydd i asesu effaith unrhyw newid i bolisi, gwasanaeth neu gynllun ar bobl, o ran cydraddoldeb, yr iaith Gymraeg a’i ddefnydd, ac ar anfantais economaidd-gymdeithasol.

Gweld copi o Asesiad Effaith

 

 

Cysylltu â ni

Am fwy o wybodaeth am y prosiect gofal cartref, cysylltwch â ni: