Rydych chi wedi cwblhau 0% o'r arolwg hwn
Caution: JavaScript execution is disabled in your browser or for this website. You may not be able to answer all questions in this survey. Please, verify your browser parameters.

Cynllun Llesiant Gwynedd a Môn - Holiadur Ymgynghoriad Cyhoeddus

Daeth Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) i rym ar y 1af o Ebrill 2016.  Pwrpas y Deddf yw gwella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.

Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn wedi rhannu'r ardal gyfan yn 14 o ardaloedd llai ar gyfer Asesiad o Lesiant Lleol.  Mae gwaith ymchwil wedi cael ei wneud ar ran y Bwrdd ar bob un o'r 14 ardal er mwyn deall a dysgu mwy am lesiant yr ardaloedd hynny.

Yn dilyn yr Asesiad Llesiant a gynhaliwyd ddiwedd 2016, mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn wedi llunio Cynllun Llesiant Drafft ar gyfer y ddwy ardal.  Rydym eisiau gwybod beth yr ydych chi yn ei feddwl o'r Cynllun Llesiant Drafft - ydych chi'n cytuno gyda'r amcanion?  A fyddent yn gwella eich llesiant?  Dyma gyfle i chi leisio eich barn am y Cynllun, trwy lenwi'r holiadur yma.

Bydd y cyfnod ymgynghori yn dod i ben ar y 30ain o Fawrth 2018 a gyda'ch ymatebion, bydd y Bwrdd yn llunio'r Cynllun Llesiant terfynol a fydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Mai 2018.

Mae eich barn yn hynod bwysig er mwyn sicrhau bod Gwynedd a Môn yn gosod yr amcanion gorau posib er mwyn gallu gwirioneddol wella llesiant ein trigolion.
Mae 11 o gwestiynau yn yr arolwg hwn.
Mae'r arolwg hwn yn ddienw.

Nid yw'r cofnod o'ch ymatebion i'r arolwg yn cynnwys unrhyw wybodaeth adnabod amdanoch chi, oni bai bod cwestiwn arolwg penodol wedi gofyn yn benodol amdanynt.

If you used an identifying access code to access this survey, please rest assured that this code will not be stored together with your responses. It is managed in a separate database and will only be updated to indicate whether you did (or did not) complete this survey. There is no way of matching identification access codes with survey responses.