Cronfa Florence Guest Morgan, Llanengan
Pwrpas y Gronfa
Mae ar gael i roi grantiau i bobl ifanc rhwng 18 a 25 oed a anwyd, neu sy’n byw yn ardal Cyngor Cymuned Llanengan (Llanengan, Llangian, Abersoch, Sarn Bach, Bwlchtocyn a Mynytho) ac sy’n astudio cymhwyster uwch mewn unrhyw brifysgol, coleg neu sefydliad addysg uwch ar hyn o bryd.
Gan fod incwm y Gronfa yn dod o fuddsoddiadau mae’r arian sydd ar gael yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd maint y grantiau hefyd yn amrywio yn ôl nifer y ceisiadau a dderbynnir.
Bydd modd i fyfyrwyr dderbyn yr ysgoloriaeth yn ystod pob blwyddyn academaidd y byddant yn astudio cyn belled â bônt yn cyflwyno cais yn flynyddol.
Dyddiad cau:
Ceisiadau blwyddyn academaidd 2022/2023 wedi cau
15/11/2023 dyddiad cau ar gyfer ceisiadau blwyddyn academaidd 2023/2024
Sut i wneud cais: Llenwch y ffurflen gais yma a’i dychwelyd at buddugmairhuws@gwynedd.llyw.cymru
Gwybodaeth Bellach: I gael gwybodaeth bellach ebostiwch: buddugmairhuws@gwynedd.llyw.cymru neu gallwch ffonio 01341 424319