Cynllun Rhannu Cartref Gwynedd

Beth yw Rhannu Cartref?

Mae Rhannu Cartref yn galluogi dau unigolyn i gyd-fyw er budd y ddau sydd ynghlwm â’r prosiect. Gan amlaf, golygai hyn berson hŷn sydd gyda ystafell sbâr yn eu cartref yn cael eu paru mewn modd diogel gyda rhywun iau a all gynnig cefnogaeth o amgylch y cartref. 

 


Oes gennych chi ystafell sbâr? (Perchennog y tŷ)

Os oes, gallwch chi:

  • Roi llety i unigolyn arall sydd angen llety
  • Parhau i fyw’n annibynnol
  • Gwneud cyfeillgarwch newydd
  • Cael tawelwch meddwl i’ch hun ac unigolion sy’n poeni amdanoch.
  • Rhannu sgiliau... a dysgu rhai newydd!

Neu 

Ydych chi’n chwilio am lety rhad a chymdeithasol? (Rhannwr y cartref)

Ydych chi eisiau:

  • Rhoi rhywbeth yn ôl i’ch cymuned
  • Byw mewn cartref cyfforddus a fforddiadwy
  • Creu ffrind newydd
  • Rhannu eich sgiliau... a dysgu rhai newydd!
     

Buddion Rhannu Cartref

  • Pobl yn gallu aros yn eu cartrefi yn annibynnol yn hirach
  • Ffordd fforddiadwy o fyw mewn cyfnod o argyfwng tai gyda prinder tai a chostau rhentu uchel
  • Tawelwch meddwl i deulu’r ddwy ochr o wybod eu bod mewn cartref diogel ac yn cael cwmnïaeth.
     

Cysylltu â ni

Am fwy o wybodaeth neu i gael sgwrs bellach am y cynllun, cysylltwch â ni:

Ymholiad ar-lein: Cynllun Rhannu Cartref 

Neu gallwch gysylltu â ni drwy dderfnyddio'r manylion cyswllt isod:

Dysgu mwy am y mudiad cenedlaethol: Homeshare UK