Iechyd a diogelwch yn y gweithle

Gwybodaeth am iechyd a diogelwch yn y gweithle.

Mae Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus 2013 (RIDDOR) yn gofyn am roi gwybod am rai mathau o anafiadau, clefydau a digwyddiadau sy’n gysylltiedig â’r gwaith, i'r awdurdod gorfodaeth ar gyfer iechyd a diogelwch (gall hwn fod yn Cyngor Gwynedd neu'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch).


Pwy ddylai roi gwybod?

Dim ond 'person cyfrifol' yn cynnwys cyflogwyr, unigolion hunangyflogedig a phobl sy'n rheoli adeilad gwaith a ddylai gyflwyno adroddiadau o dan RIDDOR. Os ydych yn weithiwr neu'n aelod o'r cyhoedd sy'n dymuno rhoi gwybod am ddigwyddiad, dylech wneud hynny drwy ein tudalen pryderon a chwynion iechyd a diogelwch.


Beth sydd angen ei adrodd?

  • Marwolaeth neu anafiadau penodol (gweler: Specified injuries to workers - RIDDOR - HSE)  i weithiwr neu berson hunangyflogedig sy'n gweithio yn eich adeilad
  • Aelod o’r cyhoedd yn marw neu’n mynd i’r ysbyty am driniaeth yn syth wedi damwain.

Rhaid rhoi gwybod am y rhain yn ddi-oed (fel arfer dros y ffôn) a’i ddilyn i fyny gyda ffurflen adrodd ar-lein o fewn 10 diwrnod. 

  • Clefyd a ddioddefwyd gan weithiwr sy'n gysylltiedig â gweithgareddau gwaith
  • Digwyddiad Peryglus nad yw'n arwain at anaf ond a allai yn amlwg fod wedi gwneud hynny.

Mae'n rhaid i'r rhain gael eu hadrodd o fewn 10 diwrnod. 

  • Gweithiwr neu berson hunangyflogedig sy'n gweithio yn eich adeilad yn cael anaf ac o ganlyniad maent i ffwrdd o’r gwaith / methu cyflawni dyletswyddau arferol am dros saith niwrnod.

Rhaid gwneud yr adroddiad o fewn 15 diwrnod i'r ddamwain.


Gallwch adrodd am y digwyddiad:

Mae dyletswyddau gorfodaeth deddfwriaeth iechyd a diogelwch yn cael ei rannu rhwng y Gweithgor Iechyd a Diogelwch (HSE) ac awdurdodau lleol. Yn gyffredinol, mae HSE yn gyfrifol am ffatrïoedd, safleoedd adeiladu, mwyngloddiau a chwareli, ffermydd, ffeiriau, rheilffyrdd, gweithfeydd cemegol, a gosodiadau alltraeth a niwclear.

Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am:

  • Adeiladau masnachol
  • Warws
  • Ymgymeriadau trafnidiaeth
  • Gwestai
  • Cartrefi Gofal Preswyl
  • Adeiladau hamdden
  • Gwasanaethau personol (e.e.lliwio'r croen)
  • Swyddfeydd
  • Diogelwch meysydd chwaraeon.

Gweld canllawiau pellach ar gyfrifoldebau y HSE ac awdurdodau lleol  

 

Mae awdurdodau lleol yn defnyddio nifer o ddulliau i reoleiddio a dylanwadu ar fusnesau mewn perthynas a rheoli risgiau iechyd a diogelwch gan gynnwys:

  • darparu cyngor ac arweiniad i fusnesau neu grwpiau unigol
  • ymyriadau adweithiol e.e. ymchwilio i ddamwain neu gŵyn
  • ymyriadau rhagweithiol gan gynnwys archwiliadau

Mae archwiliadau rhagweithiol yn cael eu rhaglennu yn flynyddol ar sail blaenoriaethau cenedlaethol.  Rydym yn cyflawni 'gwaith menter' yn seiliedig ar flaenoriaethau eraill. 

Os hoffech roi gwybod am ddamwain neu pe bai gennych unrhyw bryderon am iechyd a diogelwch mewn eiddo penodol, amodau neu arferion gwaith, e-bostiwch bwydaiechyd&diogelwch@gwynedd.llyw.cymru

Arolygir safleoedd diwydiannol mwy o faint, megis ffatrïoedd gany Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn ogystal â gweithgareddau megis gwaith adeiladu a dymchwel.Gallwch adrodd ar bryderon ynghylch Iechyd a Diogelwch y safleoedd yma i’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch: HSE: Information about health and safety at work

 

Iechyd a diogelwch – beth sydd angen i chi ei wneud... 

Yn unol â’r gyfraith, os ydych chi’n cyflogi pump neu ragor o bobl rhaid i chi gael polisi iechyd a diogelwch ysgrifenedig. Dylai bod tair rhan i'r polisi: Datganiad cyffredinol sydd ar gael i staff; y gweithdrefnau ar gyfer ei weithredu a’r trefniadau i sicrhau iechyd a diogelwch yn y gwaith. Mae templed polisi Iechyd a Diogelwch ar gael yn:

Paratoi polisi iechyd a diogelwch - HSE

Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc 1974 

Rhaid i chi gwblhau asesiad risg er mwyn adnabod y risgiau a allai godi oherwydd unrhyw weithgaredd sy’n gysylltiedig â’r gwaith i sicrhau bod mesurau ataliol yn eu lle i’w rheoli neu ddileu. Y math o risgiau y dylech eu hystyried yw: llithro a baglu yn y gweithle, codi a thrin, gweithio ar uchder ac unrhyw risgiau eraill sy’n gysylltiedig â’r swyddi penodol y mae eich staff yn eu gwneud. Rhaid i'r asesiad hefyd ystyried peryglon i eraill, fel aelodau o'r cyhoedd a chontractwyr.  Os oes gennych lai na phump o weithwyr yn eich busnes, nid oes yn rhaid i chi ddogfennu eich canfyddiadau; er hynny, byddwch dal angen penderfynu a ydych wedi cymryd digon o ragofalon eisoes neu a oes angen gwneud mwy i atal y risgiau. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a a Diogelwch ;

Rheoli risg ac asesiadau risg yn y gwaith -HSE

Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999 

Mae gan gyflogwyr  gyfrifoldebau penodol tuag at bobl ifanc a mamau newydd a merched beichiog.  Disgrifir person ifanc fel unrhyw un dan 18 oed. Rhaid cwblhau asesiad addas a digonol ran eu hiechyd a’u diogelwch. Os ydych yn cyflogi plant oed ysgol mae’n ofynnol i chi dan ddarpariaethau Deddf Plant a Phobl Ifanc 1963 gael trwydded gwaith gan adran addysg  Cyngor Gwynedd. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch:

Pobl ifanc - HSE                               

Mamau - HSE

Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999 

Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i gyflogwyr reoli sylweddau sy'n beryglus i iechyd.  Mae’r sylweddau hyn yn cynnwys cemegolion, cynnyrch sy’n cynnwys cemegolion, mygdarth, nwyon, anweddau, niwl a chyfryngau biolegol (germau). Rhaid i chi asesu'r hyn yr ydych yn ei wneud sy’n gysylltiedig â sylweddau peryglus; sut y gallai’r rhain achosi niwed a beth allwch chi ei wneud er mwyn lleihau’r risg o niwed. Ystyrir fo rheolaeth yn ddigonol pan fo’r risg o niwed ‘mor isel ag sy’n ymarferol resymol’. Os oes gennych lai na phump o weithwyr yn eich busnes, nid oes yn rhaid i chi ddogfennu eich canfyddiadau; er hynny, byddwch dal angen penderfynu a ydych wedi cymryd digon o ragofalon eisoes neu a oes angen gwneud mwy i atal y risgiau. Ceir gwybodaeth bellach am COSHH yn:

www.hse.gov.uk/coshh/index.htm

Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd 1999

Rhaid cadw cofnod o bob damwain yn yr eiddo neu ym man gwaith arferol y person cyfrifol. Er mwyn cydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data, ni ddylai’r llyfr damweiniau rydych yn ei gadw caniatáu i unigolion sy’n cofnodi damwain allu cael mynediad at fanylion cofnodion blaenorol. Gellir cael llyfr damweiniau mewn llawer o siopau llyfrwerthwyr neu’n uniongyrchol o ‘HSE Books’. Dylai’r person sydd â chyfrifoldeb rheolaethol dros yr eiddo/busnes adrodd unrhyw farwolaeth sy’n gysylltiedig â’r gwaith, unrhyw anafiadau penodol sy’n digwydd i’r cyhoedd a phobl hunangyflogedig yn yr eiddo ynghyd â digwyddiadau peryglus (rhai digwyddiadau fu bron a digwydd) yn eich eiddo. Ceir manylion am sut i adrodd ar ddamweiniau yn:

www.hse.gov.uk/riddor/ 

Dylai gweithle risg isel gael bocs cymorth cyntaf a pherson wedi’i ddynodi i fod yn gyfrifol am drefniadau cymorth cyntaf, megis galw’r gwasanaethau brys. Gellir dod o hyd i ragor o  wybodaeth yn:

www.hse.gov.uk/firstaid/

Rheoliadau Adrodd am Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus 1995

Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf) 1981

Rhaid i chi sicrhau bod cyfleusterau lles digonol yn cael eu darparu ar gyfer pobl yn y gweithle gan gynnwys pobl anabl. Golyga hyn ddarparu cyfleusterau angenrheidiol ar gyfer lles y gweithwyr, megis cyfleusterau ymolchi, toiledau, ystafell gorffwys a newid ynghyd â rhywle glân i fwyta ac yfed yn ystod amser egwyl.

Rheoliadau’r Gweithle (Iechyd, Diogelwch a Lles) 1992

Dylech arddangos gwybodaeth i’ch gweithwyr ynglŷn ag Iechyd a Diogelwch. Mae poster ar gael i'r diben hwn gan lyfrwerthwyr neu gan y Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn:

Poster Iechyd a Dioglewch - HSE

Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Weithwyr) 1989

Rhaid i chi sicrhau bod unrhyw offer nwy, gwaith pibellu’r gosodiad neu’r ffliw mewn unrhyw fan gwaith dan eich rheolaeth yn cael eu cynnal a’u cadw mewn cyflwr diogel er mwyn osgoi anafiadau i unrhyw berson. Fel arfer, mae trefn cynnal a chadw effeithiol yn cynnwys rhaglen barhaus o archwiliadau rheolaidd / cyfnodol a gwaith adfer yn ôl yr angen. Dylech gyfeirio at gyfarwyddiadau’r gwneuthurwyr ar gyfer y gofynion gwasanaethu. Yn gyffredinol, bydd angen gwasanaethu offer mawr sefydlog, e.e. bwyleri a phoptai nwy, bob 12 mis. Mae Cofrestr 'Gas Safe' yn cadw cofnod o fusnesau a gweithredwyr sy’n gymwys i gwblhau  gwaith ar systemau nwy naturiol a gwaith nwy LPG drwy Brydain.  Dylai gwaith gosod systemau nwy a gwaith ar offer nwy ond gael ei wneud gan berson sydd wedi cofrestru gyda 'Gas Safe' ac yn gymwys yn y maes gwaith nwy hwnnw. Os byddwch yn arogli nwy ffoniwch 0800 111 999. Mae rhagor o wybodaeth am nwy a dod o hyd i beiriannydd ar gael yn:

http://www.gassaferegister.co.uk/

Rheoliadau Diogelwch Nwy (Gosod a Defnyddio) 1998

Rhaid i chi reoli’r risgiau wrth i chi ddefnyddio trydan yn y gwaith. Mae’n ddyletswydd gyfreithiol ar gyflogwyr i sicrhau bod offer trydanol yn cael ei gynnal a’i gadw er mwyn osgoi perygl. Dylai amlder a graddau’r archwiliadau hyn gael eu penderfynu gan drydanwr sydd gyda cymhwyster addas. Dylid cofnodi canlyniadau’r archwiliadau rheolaidd hyn. Dylai gosodiadau trydanol sefydlog gael eu gwirio gan berson cymwys o leiaf unwaith bob pum mlynedd. Mae rhagor o wybodaeth am brofi offer symudol (PAT) a diogelwch trydanol ar gael yn:

http://www.hse.gov.uk/electricity/

Rhaid i bobl sy’n gweithio ar offer, peiriannau neu osodiadau trydanol fod yn gymwys i wneud hynny. Mae rhagor o wybodaeth am drydan a dod o hyd i drydanwr cofrestredig ar gael yn:

 http://www.niceic.com/

Rheoliadau Trydan yn y Gwaith 1989

Mae’n ofynnol dan y ddeddf eich bod yn darparu pa bynnag wybodaeth, cyfarwyddyd a hyfforddiant sydd ei angen, cyn belled â bod hynny’n rhesymol ymarferol, er mwyn sicrhau iechyd a diogelwch eich gweithwyr. Rhaid i chi sicrhau eich bod yn gyfarwydd â sut i adnabod y peryglon a rheoli’r risgiau sy’n codi o’ch gwaith. Mae hyfforddiant iechyd a diogelwch yn eithriadol o bwysig pan fo pobl yn dechrau gweithio, pan gaent eu cyflwyno i risgiau newydd neu fwy ohonynt neu pan fo’u sgiliau presennol wedi mynd braidd yn rhydlyd neu angen eu gloywi. Dylid cynnal hyfforddiant iechyd a diogelwch yn ystod oriau gwaith ac ni ddylai’r gweithwyr fod yn talu amdano. Rhaid i chi ystyried a yw’r gyfraith yn gofyn am hyfforddiant penodol (e.e. hyfforddiant cymorth cyntaf) ac a oes angen hyfforddwyr allanol neu a ellir cynnal yr hyfforddiant yn fewnol. Rhaid i chi sicrhau eich bod yn bodloni anghenion hyfforddi eich holl weithlu, gan gynnwys gweithwyr mudol nad ydynt efallai yn siarad Saesneg yn dda.

Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc 1974 

Os yw eich busnes yn cyflogi gweithwyr, mae’n bur debyg y byddwch angen yswiriant atebolrwydd cyflogwr. Yn gyfreithiol, rhaid i gyflogwyr gael yswiriant yn erbyn atebolrwydd am niwed neu afiechyd i’w weithwyr yn codi o ganlyniad i’w gwaith – mae’n yswiriant gorfodol a rhaid iddo gynnig gwarchodaeth hyd at o leiaf  £5 miliwn. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn:

Yswiriant ar gyfer eich busnes - HSE

Os bydd eich yswiriwr yn credu eich bod wedi methu â bodloni eich cyfrifoldebau cyfreithiol am iechyd a diogelwch eich gweithwyr a bod hyn wedi arwain at hawliad, mae’n bosib y gall y polisi ganiatáu i’r yswiriwr eich erlyn ac adennill costau’r iawndal. Rhaid i chi arddangos copi o’r dystysgrif yswiriant mewn man amlwg fel y gall y gweithwyr ei darllen yn hawdd.

Deddf Atebolrwydd Cyflogwyr (Yswiriant Gorfodol) 1969

Mae gennych ddyletswydd i reoli asbestos yn y gweithle.   Fel arfer, y person sydd â dyletswydd yw’r person/sefydliad sydd â chyfrifoldeb clir am gynnal a chadw neu drwsio eiddo annomestig drwy gytundeb penodol, megis cytundeb tenantiaeth neu gontract. Rhaid i chi gymryd camau rhesymol i ddarganfod a oes unrhyw asbestos yn eich eiddo ac os oes, faint sydd ohono, ble mae wedi’i leoli a pha gyflwr y mae ynddo.  Rhaid cadw cofnod o leoliad a chyflwr y deunyddiau sy’n cynnwys asbestos a’i ddiweddaru. Rhaid i chi baratoi cynllun yn dangos sut y rheolir yr asbestos a rhaid ei weithredu a’i adolygu’n rheolaidd. Rhaid i chi hefyd roi gwybodaeth am leoliad a chyflwr y deunyddiau i unrhyw un sy’n debygol o weithio arnynt neu eu haflonyddu. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn:

Asbestos - iechyd a diogelwch yn y gweithle- HSE

Rheoliadau Rheoli Asbestos 2012

Mae gennych ddyletswydd i reoli trafnidiaeth sy’n gysylltiedig a’ch gweithle.  Mae defnydd cerbydau yn y gwaith yn parhau i fod yn brif achos anafiadau angheuol a difrifol.  Bob blwyddyn mae dros 5000 o ddigwyddiadau sy'n gysylltiedig gyda thrafnidiaeth yn y gweithle.  Mae tua 50 o'r rhain yn angheuol. I reoli'r risgiau o drafnidiaeth yn y gweithle yn effeithiol, mae angen i chi ystyried tri maes allweddol:  Safle Diogel, Cerbyd Diogel, Gyrrwr Diogel. Mae angen i chi asesu'r peryglon, adnabod mesurau rheoli addas, gweithredu'r mesurau hyn a monitro pa mor effeithiol ydynt.   Mae'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch wedi cynhyrchu canllaw ar drafnidiaeth y gweithle i'ch helpu i benderfynu beth sydd angen i chi ei wneud.

www.hse.gov.uk/workplacetransport/ 

Rheoliadau’r Gweithle (Iechyd, Diogelwch a Lles) 1992

Mae'r Rheoliadau Gweithio ar Uchder 2005 yn gymwys i holl waith ar uchder ble mae perygl o syrthio gall ddiweddu mewn anaf personol.  Maent yn rhoi dyletswydd ar gyflogwyr a'r rhai sy'n rheoli unrhyw waith a gweithgareddau ar uchder (fel rheolwyr cyfleusterau neu berchnogion adeiladau sy'n gallu cyfarwyddo /cyflogi eraill i weithio ar uchder).  Rhaid i chi sicrhau fod yr holl waith ar uchder wedi ei gynllunio a'i drefnu yn briodol, bod y rhai sy'n ymwneud â gwaith ar uchder yn gymwys, bod y risgiau o weithio ar uchder wedi eu hasesu a bod offer gwaith priodol wedi ei ddewis a'i ddefnyddio.  Mae’n rhaid i chi hefyd sicrhau bod peryglon gweithio ar neu ger arwynebau bregus wedi ei reoli  a bod yr offer a ddefnyddir wedi ei archwilio a'i gynnal a'i gadw yn briodol. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yn:

http://www.hse.gov.uk/work-at-height  

Rheoliadau Gweithio ar Uchder 2005

Mae'r Rheoliadau Gweithrediadau Codi ac Offer Codi 1998 (LOLER) yn rhoi dyletswyddau ar bobl a chwmnïau sy'n berchen ar, yn gweithredu neu â rheolaeth am offer codi, fel lifftiau, 'dumb waiters', wagenni fforch godi, hoistiau ac ati.   Rhaid i'r holl waith codi sy'n golygu defnyddio offer codi gael ei gynllunio'n briodol gan  unigolyn cymwys a’i oruchwylio yn briodol Rhaid fo’r gwaith yn cael ei wneud mewn ffordd ddiogel. Mae'r Rheoliadau hefyd yn mynnu fod yr holl offer a ddefnyddir i godi pethau yn addas i'r pwrpas, yn briodol i'r dasg, wedi ei farcio yn addas ac mewn sawl achos yn amodol i archwiliadau cyfnodol statudol trylwyr.  Rhaid cadw cofnodion o'r holl archwiliadau trylwyr a dylid hysbysu'r person sy'n gyfrifol am yr offer a'r awdurdod gorfodaeth perthnasol os oes unrhyw ddiffygion.   Gellir cael rhagor o wybodaeth yn:

www.hse.gov.uk/work-equipment-machinery/index.htm

Rheoliadau Gweithrediadau Codi ac Offer Codi 1998 

Mae Rheoliadau Darpariaeth a Defnyddio Offer Gwaith 1998 (PUWER) yn rhoi dyletswydd ar bobl a chwmnïau sy'n berchen ar, yn gweithredu neu â rheolaeth dros offer gwaith.  Rhaid i chi sicrhau bod yr offer a ddarparir i'w ddefnyddio yn y gwaith yn addas i'r defnydd a fwriadwyd, yn ddiogel i'w ddefnyddio, yn cael ei gynnal mewn cyflwr diogel a'i archwilio i sicrhau ei fod wedi ei osod yn gywir a ddim yn dirywio yn dilyn hynny.  Dim ond pobl sydd wedi derbyn gwybodaeth ddigonol, cyfarwyddyd a hyfforddiant ddylai defnyddio’r offer. Mae'n rhaid i'r offer ymgorffori mesurau iechyd a diogelwch addas.  Rhaid i chi hefyd ystyried pa Offer Gwarchod Personol, os o gwbl, sydd ei angen. Ceir rhagor o wybodaeth am Offer Gwaith yn:

www.hse.gov.uk/work-equipment-machinery/puwer.htm 

Rheoliadau Darpariaeth a Defnyddio Offer Gwaith 1998  

Mae'n ofynnol yn gyfreithiol fod deilydd eiddo sy'n agored i'r cyhoedd yn arddangos arwyddion dwyieithog yn yr eiddo i roi gwybod i ddefnyddwyr nad yw ysmygu yn cael ei ganiatáu. Mae templedi rhybuddion ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Rheoliadau Eiddo Di-fwg ac ati (Cymru) 2007

Os ydych chi’n gyflogwr neu berson sydd â chyfrifoldeb am eiddo, dylech eich bod yn deall y risgiau sy’n gysylltiedig â legionella. Mae’r Ddogfen Cod Ymarfer Cymeradwy : Clefyd y Llengfilwyr: Rheolaeth o’r Bacteria Legionella mewn systemau dwr (L8) yn cynnwys cyngor ymarferol ar sut i reoli y risgiau gall fo’n gysylltiedig a’ch system.

Gweler: www.hse.gov.uk/pubns/books/l8.htm

Y chi sydd yn gyfrifol am iechyd a diogelwch a dylech eich bod yn cymryd y rhagofalon cywir i leihau’r risgiau o ddatguddiad i legionella. Ddylech fod yn ymwybodol o sut i

  • Adnabod ag asesu tarddiad unrhyw risg
  • Atal a rheoli unrhyw risgiau
  • Cynnal a chadw cofnodion cywir
  • Cwblhau unrhyw ddyletswyddau eraill perthnasol 

Rhaid hefyd ystyried gwybodaeth dechnegol / pellach am y systemau sydd yn peri risg sylweddol sef: Tyrrau oeri, Systemau dwr oer a poeth  a pyllau sba. Ceri mwy o wybodaeth a chyngor yn:

www.hse.gov.uk/legionnaires/what-you-must-do.htm

Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith ayb 1974

 Rheoliadau Rheoli Sylweddau sy’n Beryglus i Iechyd 2002

Mae gan gyflogwyr ddyletswydd gyfreithiol i amddiffyn gweithwyr rhag straen yn y gwaith trwy wneud asesiad risg a gweithredu arno. Mae’r HSE wedi cynhyrchu asesiad risg straen enghreifftiol a allai helpu: 

Straen yn y gweithle a sut i'w reoli - HSE

Mae dermatitis  yn fath o ecsema gall ddatblygu drwy gyswllt â sylwedd penodol:

  • llidiwr – sylwedd sy'n niweidio haen allanol y croen yn uniongyrchol
  • alergen – sylwedd sy'n achosi i'r system imiwnedd ymateb mewn ffordd sy'n effeithio ar y croen

Mae dermatitis yn cael ei achosi gan amlaf gan lidiau fel sebonau a glanedyddion, toddyddion, neu gysylltiad rheolaidd â dŵr. Rhaid i gyflogwyr asesu'r risgiau y bydd gweithwyr yn datblygu dermatitis. Lle mae risg, rhaid iddynt ddarparu mesurau rheoli, gwybodaeth, cyfarwyddyd a hyfforddiant digonol.

Dermatitis yn gysylltiedig â'r gweithle- HSE

Rheoliadau Deddf (Rheoleiddio) Gwelyau Haul 2010 (Cymru) 2011 

Mae Deddf (Rheoleiddio) Gwelyau Haul 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i fusnesau sicrhau nad oes unrhyw berson o dan 18 oed: 

  • yn defnyddio gwely haul;
  • yn cael y cynnig o ddefnyddio gwelyau haul, neu
  • yn bresennol mewn parth dan gyfyngiad 

Mae peidio â chydymffurfio â'r Ddeddf yn drosedd gall olygu cosb o hyd at £20,000.

Rhagor o wybodaeth am welyau haul a'r ddeddfwriaeth