Ar 6 Ebrill 2024 daeth cyfraith ailgylchu newydd i rym.

Mae'n golygu y bydd rhaid i bob gweithle, fel busnesau, y sector gyhoeddus, ac elusennau, wahanu eu eitemau ailgylchu yn ôl eu math cyn eu bod yn cael eu casglu.

Gweld manylion am y gyfraith ailgylchu newydd

Close

Casglu Gwastraff Masnachol

Os ydych yn rhedeg busnes neu'n cynnal digwyddiad cyhoeddus, mae dyletswydd cyfreithiol arnoch (Dyletswydd Gofal) i gael gwared ar unrhyw wastraff a deunydd ailgylchu yn gyfrifol drwy gludwr gwastraff masnach trwyddedig. 

Gall Cyngor Gwynedd gynnig: 

-  gwasanaeth cynhwysfawr, dibynadwy a phroffesiynol

prisiau cystadleuol

contractau ar gyfer casgliadau rheolaidd, neu, gasgliadau ar gyfer digwyddiadau un-tro

gwasanaeth sy'n cydymffurfio â deddfwriaeth newydd Llywodraeth Cymru.

 

Gweld Rheoliadau Gwastraff a Reolir (Cymru a Lloegr) 2012