Cronfa Cefnogi Cymunedau - Cist Gwynedd

Grant ar gyfer grwpiau cymunedol a gwirfoddol Gwynedd ydi’r Gronfa Cefnogi Cymunedau. Y nod yw cefnogi cynlluniau a fydd yn gwella ansawdd bywyd trigolion, grwpiau a chymunedau’r sir.

Ydych chi'n glwb chwaraeon?
Y Gronfa Cymru Actif ydi'r un fwyaf perthasnol i glybiau chwaraeon. Am wybodaeth neu gymorth am y gronfa hon, cysylltwch â Rheolwr Uned Partneriaethau Byw’n Iach a’r 07795012706 neu Cyswllt@bywniach.cymru

 

Gall grwpiau cymunedol a gwirfoddol wneud cais. Bydd y grant yn cael ei ddyfarnu i gynlluniau sy'n adlewyrchu un neu fwy o'r amcanion isod:

  • Annog cymunedau i gymryd rôl fwy rhagweithiol yn eu hardaloedd
  • Adnabod ac ymateb i anghenion cymdeithasol. ieithyddol a diwylliannol y gymuned
  • Hybu buddsoddiad a datblygiad yr economi leol
  • Gwella lleoliadau sy’n bwysig i gymunedau
  • Cynyddu cyfleoedd gwaith, datblygiad sgiliau ymhlith unigolion o fewn cymunedau a hybu cyfle cyfartal i bawb
  • Cefnogi gwirfoddolwyr a hyrwyddo cyfleoedd gwirfoddoli
  • Annog gwarchod a chyfoethogi'r amgylchedd.

Gallwch wneud cais am grant hyd at £10,000 (cyfalaf neu refeniw).

Bydd pob cais yn cael ei asesu yn ôl teilyngdod. 

Ffurflen gais

E-bostiwch y ffurflen ar ôl ei llenwi at cistgwynedd@gwynedd.llyw.cymruNeu gyrrwch gopi papur at:

Uwch Swyddog Cist Gwynedd
Gwasanaeth Cefnogi Cymunedau
Cyngor Gwynedd
Swyddfeydd y Cyngor
Caernarfon
Gwynedd
LL55 1SH

Rydym yn awgrymu'n gryf eich bod yn trafod eich cais gyda Swyddog Cefnogi Cymunedau'r ardal berthnasol cyn cyflwyno eich cais.

Dalgylch Bro Peris, Bro Lleu/Nantlle, Bro Ffestiniog   

E-bost: markgahan@gwynedd.llyw.cymru

Rhif ffon: 07901 893006

 

Dalgylch Caernarfon/Bangor a Bro Ogwen

E-bost: dafyddeinionjones@gwynedd.llyw.cymru

Rhif ffon: 01248 605276

 

Dalgylch Pwllheli a Penllŷn   

E-bost: alyslloydjones@gwynedd.llyw.cymru

Rhif ffon: 01758 704120

 

Bro Dysynni, Ardudwy a Dolgellau  

E-bost: annalewis@gwynedd.llyw.cymru

Rhif ffon: 01341 424504

 

Porthmadog a Penrhyndeudraeth

E-bost: lindseyellis@gwynedd.llyw.cymru

Rhif ffon: 07919024025

 

Bala Penllyn, Rhydymain a Dinas Mawddwy

E-bost: HuwAnturEdwards@gwynedd.llyw.cymru

Rhif ffon: 07929512741

 

Mae'r grant yn cael ei ddyfarnu yn chwarterol ond bydd y 'rowndiau' ymgeisio fydd ar gael yn dibynnu ar faint o arian fydd ar gael bob tro. Sicrhewch fod y ffurflen gais wedi ei chwblhau a bod yr holl ddogfennau cefnogol a thechnegol wedi eu hanfon (yn ddelfrydol dros e-bost) erbyn Mehefin 14eg, 2024.

 

Canllawiau a ffurflenni cais

Gallwch hefyd gysylltu drwy e-bostio 

CistGwynedd@gwynedd.llyw.cymru neu drwy ffonio 01286 679870