Cronfa Cefnogi Cymunedau - Cist Gwynedd

Grant ar gyfer grwpiau cymunedol a gwirfoddol Gwynedd ydi’r Gronfa Cefnogi Cymunedau. Y nod yw cefnogi cynlluniau a fydd yn gwella ansawdd bywyd trigolion, grwpiau a chymunedau’r sir.

Ydych chi'n glwb chwaraeon?
Y Gronfa Cymru Actif ydi'r un fwyaf perthasnol i glybiau chwaraeon. Am wybodaeth neu gymorth am y gronfa hon, cysylltwch â Rheolwr Uned Partneriaethau Byw’n Iach a’r 07795012706 neu Cyswllt@bywniach.cymru

 

Gall grwpiau cymunedol a gwirfoddol wneud cais. Bydd y grant yn cael ei ddyfarnu i gynlluniau sy'n adlewyrchu un neu fwy o'r amcanion isod:

  • Annog cymunedau i gymryd rôl fwy rhagweithiol yn eu hardaloedd
  • Adnabod ac ymateb i anghenion cymdeithasol. ieithyddol a diwylliannol y gymuned
  • Hybu buddsoddiad a datblygiad yr economi leol
  • Gwella lleoliadau sy’n bwysig i gymunedau
  • Cynyddu cyfleoedd gwaith, datblygiad sgiliau ymhlith unigolion o fewn cymunedau a hybu cyfle cyfartal i bawb
  • Cefnogi gwirfoddolwyr a hyrwyddo cyfleoedd gwirfoddoli
  • Annog gwarchod a chyfoethogi'r amgylchedd.

Gallwch wneud cais am grant hyd at £10,000 (cyfalaf neu refeniw).

Bydd pob cais yn cael ei asesu yn ôl teilyngdod. 

Ffurflen gais

E-bostiwch y ffurflen ar ôl ei llenwi at cistgwynedd@gwynedd.llyw.cymruNeu gyrrwch gopi papur at:

Uwch Swyddog Cist Gwynedd
Gwasanaeth Cefnogi Cymunedau
Cyngor Gwynedd
Swyddfeydd y Cyngor
Caernarfon
Gwynedd
LL55 1SH

Rydym yn awgrymu'n gryf eich bod yn trafod eich cais gyda Swyddog Cefnogi Cymunedau'r ardal berthnasol cyn cyflwyno eich cais.

Dalgylch Bro Peris, Bro Lleu/Nantlle/Bro Ffestiniog 

Ebost: markgahan@gwynedd.llyw.cymru 

Rhif ffon: 07901 893006

Dalgylch Caernarfon/ Bangor a Bro Ogwen 

Ebost: dafyddeinionjones@gwynedd.llyw.cymru 

Rhif ffon: 01248 605 276

Dalgylch Pwllheli a Penllŷn 

Ebost: alyslloydjones@gwynedd.llyw.cymru 

Rhif ffon: 01758 704/120

Bro Dysynni, Ardudwy a Dolgellau 

Ebost: annalewis@gwynedd.llyw.cymru 

Rhif ffon: 01341424504

Bala Penllyn, Porthmadog a Penrhyndeudraeth 

Ebost: lindseyellisedwards@gwynedd.llyw.cymru 

Rhif ffon: 07919024025

Mae'r grant yn cael ei ddyfarnu yn chwarterol ond bydd 'rowndiau' ymgeisio fydd ar gael yn dibynnu ar faint o arian fydd ar gael bob tro. Sicrhewch fod y ffurflen gais wedi ei chwblhau a bod yr holl ddogfennau cefnogol a thechnegol wedi eu hanfon erbyn y dyddiadau cau (i'w gweld ar dudalen 4 o'r canllawiau). 

 

Canllawiau a ffurflenni cais

Gallwch hefyd gysylltu drwy e-bostio CistGwynedd@gwynedd.llyw.cymru neu ffonio Swyddog Cefnogi Cymunedau ar:

Dalgylch Bro Peris, Bro Lleu/Nantlle/Bro Ffestiniog 

Ebost: markgahan@gwynedd.llyw.cymru 

Rhif ffon: 07901 893006

Dalgylch Caernarfon/ Bangor a Bro Ogwen 

Ebost: dafyddeinionjones@gwynedd.llyw.cymru 

Rhif ffon: 01248 605 276

Dalgylch Pwllheli a Penllŷn 

Ebost: alyslloydjones@gwynedd.llyw.cymru 

Rhif ffon: 01758 704/120

Bro Dysynni, Ardudwy a Dolgellau 

Ebost: annalewis@gwynedd.llyw.cymru 

Rhif ffon: 01341424504

Bala Penllyn, Porthmadog a Penrhyndeudraeth 

Ebost: lindseyellisedwards@gwynedd.llyw.cymru 

Rhif ffon: 07919024025