Cynllun Datblygu Lleol Gwynedd (y Cynllun newydd)

 

Yn unol â chanllawiau cenedlaethol, mae’n rhaid i Awdurdodau Cynllunio Lleol adolygu eu Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) mabwysiedig pob pedair blynedd a pharatoi Cynllun Diwygiedig. Mabwysiadwyd y Cynllun presennol, sef Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn ar 31 Gorffennaf 2017. Gan hynny, mae yna Adroddiad Adolygu wedi ei baratoi yn gysylltiedig â’r broses o baratoi Cynllun Datblygu Lleol newydd ar gyfer ddwy Ardal Awdurdod Cynllunio Lleol (Gwynedd ac Ynys Môn).

 

Mae’r Adroddiad Adolygu yn edrych ar yr holl dystiolaeth sydd yn berthnasol i’r CDLl ar y Cyd a dod i gasgliad ynglŷn â’r math o adolygiad bydd yn cael ei ddilyn. Nid yw’n yn manylu ar unrhyw newidiadau y bydd yn cael eu gwneud i’r Cynllun. 

  

Roedd yr Adroddiad Adolygu Drafft yn destun cyfnod ymgynghori cyhoeddus o 5 Tachwedd hyd at 20 Rhagfyr 2021.

 

Cytunodd y Cyngor Llawn yn ei gyfarfod ar y 3 Mawrth 2022 i gyhoeddi’r Adroddiad Adolygu a’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

Mae’r Adroddiad Adolygu ar gael i’w lawrlwytho: 

Adroddiad Adolygu: Cynllun Datblygu Lleol Gwynedd a Môn (Mawrth 2022) 

Ymhellach mae posib archwilio copi caled o’r ddogfen yn Siop Gwynedd Caernarfon, Pwllheli a Dolgellau.

 

Yn dilyn penderfyniad gan Gyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn i ddod a’r cytundeb cydweithio ar faterion Polisi Cynllunio i ben ar 31 Mawrth 2023, mae Gwasanaeth Polisi Cynllunio Gwynedd wedi cael ei sefydlu.

 

Mae’r broses o baratoi Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) newydd ar gyfer ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd yn unig (sef yr ardal o Wynedd a leolir tu allan i Barc Cenedlaethol Eryri) wedi cychwyn. Bydd y CDLl newydd yn cwmpasu cyfnod rhwng 2024 a 2039. Mae Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn yn parhau i ddarparu'r fframwaith bolisi lleol ar gyfer penderfyniadau ar geisiadau cynllunio, hyd nes bydd Cynllun Datblygu Lleol Gwynedd yn cael ei fabwysiadu.

 

Cytundeb Cyflawni 

Mae’n ofynnol dilyn nifer o gamau statudol fel rhan o’r broses o baratoi a mabwysiadu’r Cynllun Datblygu Lleol. Y cam gyntaf yn y broses yw paratoi Cytundeb Cyflawni. Rhennir y Cytundeb Cyflawni yn ddwy ran, sef:-

 

1.    Amserlen o’r Camau Allweddol ar gyfer paratoi’r CDLl newydd; a

2.  Cynllun Cynnwys Cymunedau sydd yn nodi sut a pryd gall rhanddeiliaid a’r gymuned gyfrannu yn ystod y broses o baratoi’r Cynllun.

 

Cynhaliwyd cyfnod ymgynghori cyhoeddus ar y Cytundeb Cyflawni Drafft ynghyd a’r Asesiad Effaith ar Nodweddion Cydraddoldeb, y Gymraeg ac Anfantais Economaidd rhwng 26 Hydref 2023 a 7 Rhagfyr 2023. 

 

Cymeradwywyd y Cytundeb Cyflawni terfynol ynghyd a’r Asesiad Effaith ar Nodweddion Cydraddoldeb, y Gymraeg ac Anfantais Economaidd gan Gyngor Gwynedd ar 7 Mawrth 2024. Mae cytundeb Llywodraeth Cymru i gynnwys y Cytundeb Cyflawni wedi ei dderbyn.

Cadw mewn cysylltiad

Os ydych yn dymuno derbyn gohebiaeth gan y Gwasanaeth Polisi Cynllunio mewn perthynas â’r broses o baratoi’r Cynllun Datblygu Lleol cysylltwch â’r Gwasanaeth Polisi Cynllunio er mwyn cofrestru eich manylion polisicynllunio@gwynedd.llyw.cymru.

Cadw mewn cysylltiad

Os ydych yn dymuno derbyn gohebiaeth gan y Gwasanaeth Polisi Cynllunio mewn perthynas â’r broses o baratoi’r Cynllun Datblygu Lleol cysylltwch a’r Gwasanaeth Polisi Cynllunio er mwyn cofrestru eich manylion.