Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd

Ar 31 Gorffennaf 2017 cafodd y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ei fabwysiadu gan Gynghorau Gwynedd ac Ynys Môn. Mae bellach yn ffurfio'r cynllun datblygu a bydd yn sail i benderfyniadau sy'n cael ei wneud ar gynllunio'r defnydd o dir gan y ddau Gyngor (oni bai am Barc Cenedlaethol Eryri).

Mae'r Cynghorau'n defnyddio'r cynllun hwn i arwain a rheoli gwaith datblygu, darparu sail y caiff ceisiadau cynllunio eu penderfynu arni a sail a fydd yn disodli fframwaith y cynllun datblygu blaenorol sef:

  • Cynllun Fframwaith Gwynedd (1993),
  • Cynllun Lleol Ynys Môn (1996),
  • Cynllun Datblygu Unedol wedi ei Stopio (2005) a
  • Chynllun Datblygu Unedol Gwynedd (2008). 

Mae Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2011 - 2025 yn cynnwys:

Gweld proses Cynllun Datblygu Lleol hyd at ei fabwysiadu.

 

Adroddiadau Monitro

Mae'n ofynnol i Awdurdodau Cynllunio Lleol fonitro gweithrediad y Cynllun a fabwysiadwyd ganddyn nhw drwy gynhyrchu Adroddiad Monitro Blynyddol sy'n cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

Adroddiad Monitro Blynyddol 1 (1 Awst 2017 – 31 Mawrth 2019)

Cafodd yr adroddiad yma ei gyflwyno i Llywodraeth Cymru yn Hydref 2019.

Adroddiad Monitro Blynyddol 1 

 

Adroddiad Monitro Blynyddol 2 (1 Ebrill 2019 – 31 Mawrth 2020)

Cafodd yr adroddiad monitro yma ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru yn Hydref 2021.

Adroddiad Monitro Blynyddol 2

 

Adroddiad Monitro Blynyddol 3 (1 Ebrill 2020 – 31 Mawrth 2021)

Cafodd yr adroddiad monitro yma ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru yn Hydref 2021.

 Adroddiad Monitro Blynyddol 3

 

Adroddiad Monitro Blynyddol 4 (1 Ebrill 2021 – 31 Mawrth 2022)

Cafodd yr adroddiad monitro yma ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru yn Hydref 2022.

Adroddiad Monitro Blynyddol 4

 

Adroddiad Monitro Blynyddol 5 (1 Ebrill 2022 – 31 Mawrth 2023)

Cafodd yr adroddiad monitro yma ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru yn Hydref 2023.

Adroddiad Monitro Blynyddol 5