Cwynion ac ymholiadau Covid-19
Rydym yn cydweithio efo busnesau Gwynedd i sicrhau eu bod yn dilyn y rheoliadau diweddaraf er mwyn helpu rhwystro lledaenu Covid-19. Os ydych yn bryderus am fusnes yng Ngwynedd sydd ddim yn dilyn y rheoliadau Covid-19, rhowch wybod i ni:
Adrodd Pryder: Cydymffurfio â Covid-19
Rydym hefyd yn ceisio atal unrhyw sgamiau neu dwyll yn ymwneud â Covid-19. Rhowch wybod i’r uned Safonau Masnach os oes gennych unrhyw bryder.
Adrodd Pryder: Safonau Masnach
Gwasanethau a ddarperir
Yn ogystal a rhoi cyngor i fusnesau ar cyhoedd mi fydd y gwasanaeth yn ymdrin â:
- materion diogelwch cynnyrch
- cwynion am iechyd a lles anifeiliaid/bwyd anifeiliaid
- hysbysiadau diogelwch bwyd
- hysbysiadau o ddamweiniau a digwyddiadau peryglus mewn gweithleoedd
- hysbysiadau o afiechydon heintus
- cwynion am fusnesau sy'n parhau yn agored
- cesiadau i adnewyddu trwyddedau tacsis yn unig
- ceisiadau gan eiddo trwyddedig i gael Trwydded Digwyddiad Dros Dro i werthu alcohol i'w gludo oddi ar y safle
- ceisiadau i gladdu meirwon o ran angladdau iechyd cyhoeddus
- honiadau o lygredd olew o danciau domestig
- ymholiadau am ddiogelwch dyfroedd preifat
- cwynion am lygredd aer
- cwynion am sbwriel a all fod yn beryglus i iechyd