Ymgynghoriad StatudolYsgol Baladeulyn

Mae Cyngor Gwynedd yn cynnal ymgynghoriad statudol ar gynnig i gau Ysgol Baladeulyn. Y cynnig yw:

“Cau Ysgol Baladeulyn ar 31 Rhagfyr 2026 a darparu lle i ddysgwyr yn Ysgol Talysarn o 1 Ionawr 2027 ymlaen.”

 

Byddai Cyngor Gwynedd yn hoffi i chi gyflwyno eich barn ar y cynnig uchod, fel y gellir ei hystyried cyn gwneud penderfyniad ar y camau nesaf.

Bydd y cyfnod o ymgynghori Statudol yn cael ei gynnal rhwng 10 Rhagfyr 2025 a 28 Ionawr 2026. 

Yn dilyn y cyfnod ymgynghori statudol, bydd adroddiad ar yr ymgynghoriad yn cael ei gyflwyno i Gabinet Cyngor Gwynedd, a bydd penderfyniad yn cael ei wneud p’un ai a ddylid bwrw ymlaen â’r cynnig hwn ai peidio. Bydd yr adroddiad ymgynghori yn crynhoi’r materion a godwyd gan ymgynghorai yn ystod yr ymgynghoriad statudol ac yn cynnwys ymateb y Cyngor i’r materion hynny.

 

Dogfennau Ymgynghori:

Mae’r holl ddogfennau perthnasol ar gael isod:

Am gopi caled o unrhyw ddogfen cysylltwch â:

 

Sut i ymateb i’r ymgynghoriad?

Gallwch ymateb i'r ymgynghoriad hwn trwy lenwi'r ffurflen ymateb ar-lein:

Ymgynghoriad Statudol Ysgol Baladeulyn - Rhoi eich barn

Neu gallwch lenwi’r ffurflen ymateb (fersiwn PDF) a’i dychwelyd i:

Rhaid derbyn pob ymateb erbyn 1pm Dydd Mercher, 28 Ionawr 2026.

 

Mwy...

Yn ei gyfarfod ar 14 Hydref 2025, bu i Gabinet Cyngor Gwynedd benderfynu cefnogi argymhelliad i gynnal ymgynghoriad statudol ar y cynnig arfaethedig i gau Ysgol Baladeulyn ar 31 Rhagfyr 2026 a darparu lle i ddysgwyr yn Ysgol Talysarn o 1 Ionawr 2027 ymlaen.

Yn ei gyfarfod ar 11 Chwefror 2025, penderfynodd Cabinet Cyngor Gwynedd ganiatáu’r Adran Addysg gynnal trafodaethau ffurfiol gyda Chorff Llywodraethol  a rhanddeiliaid perthnasol eraill Ysgol Baladeulyn, i alluogi llunio ystod o opsiynau posibl yn ymwneud a dyfodol yr ysgol, yn sgil pryderon ynghylch niferoedd disgyblion yr ysgol.

Gweld Cyfarfod y Cabinet (Eitem 8)

Yn dilyn penderfyniad y Cabinet ar 11 Chwefror 2025, sefydlwyd Panel Adolygu Ysgol (PAY) ar gyfer Ysgol Baladeulyn i drafod sefyllfa’r ysgol, ynghyd ag ystyried yr opsiynau posib gyda rhan-ddeiliad yr ysgol.