Oes gennych swyddi i lenwi?
Mae Gwaith Gwynedd yn cynnal cyfres o ffeiriau swyddi yng Ngwynedd sydd yn gyfle gwych i fusnesau lleol cyfarfod pobol sydd yn edrych am swyddi. Os ydych eisio’r cyfle i gael stondin am ddim er mwyn arddangos eich swyddi agored, cysylltwch â Gwaith Gwynedd drwy e-bostio: rebeccawilliams@gwynedd.llyw.cymru
- 08/10/2025 Canolfan Waith, Bangor 10:00 – 14:00
- 14/10/2025 Canolfan Waith, Porthmadog 10:00 – 12:30
- 20/10/2025 Gorsaf Rheilffordd, Caernarfon 10:00 – 13:00
Yn ystod ffair swyddi Porthmadog, bydd yna Gornel Cymorth Busnes, ble fydd Busnes@ Gwynedd a nifer o sefydliadau Cymorth Busnes ar gael i ddarparu cymorth a gwybodaeth i fusnesau.
Does ddim angen tocyn, dewch draw ar y diwrnod am sgwrs!