Cynllun Gwella Hawliau Tramwy Cyngor Gwynedd

Mae'r cyfnod ymgynghori wedi dod i ben. Bydd y canlyniadau ar gael cyn bo hir.

 

Mae Cyngor Gwynedd wedi paratoi Cynllun Gwella Hawliau Tramwy sydd yn gosod cyfeiriad i gwrdd ag anghenion cerddwyr, pobl gydag amhariad symudedd, beicwyr a marchogwyr ceffylau yn ogystal â chyfarch yr heriau i gynnal llwybrau ac i’w cadw ar agor.

Mae’r ddogfen yn gosod cyfeiriad a blaenoriaethau ar gyfer y maes gwaith am y cyfnod hyd at 2028/29 ac mae’r Cyngor yn awyddus i dderbyn sylwadau gan drigolion a chynrychiolwyr mudiadau am y ddogfen drwy lenwi holiadur sydd nawr ar agor.

Gallwch ddarllen Cynllun Gwella Hawliau Tramwy Cyngor Gwynedd drwy glicio ar y ddolen isod:

Cynllun Gwella Hawliau Tramwy Cyngor Gwynedd

Mae’r Cyngor yn gyfrifol am rwydwaith hawliau tramwy’r sir, sydd tua 2,360 milltir (3,800km) o hyd, yn ogystal â llwybrau poblogaidd fel y Lonydd Glas. 

Mae’r rhwydwaith yma yn galluogi mynediad i gefn gwlad, i’r arfordir a mannau gwyrdd trefol ac rydym wedi gweld pa mor bwysig yw ein llwybrau i lesiant pobol yn ystod cyfnod COVID-19. Yn ogystal a hyn, mae’r rhwydwaith hefyd yn adnodd sy’n cael defnydd helaeth gan ymwelwyr i’r ardal ac yn galluogi teithio di-draffig - er enghraifft i’r ysgol neu gwaith.

Bydd yr adborth yn cael ei ddefnyddio i baratoi'r Cynllun Gwella Hawliau Tramwy Cyngor Gwynedd terfynol a fydd yn weithredol hyd at 2028/29.

Mae dyddiad cau yr ymgynghoriad wedi'i ymestyn tan 30 Medi 2022.