Dim ond un taliad all pob busnes ei dderbyn. Mae’r taliad ar gyfer y cyfnod Rhagfyr 2020 ac Ionawr 2021.
Rydym yn aros am wybodaeth am unrhyw gymorth pellach fydd ar gael petai’r cyfyngiadau yn parhau.
I sicrhau eich bod yn gwybod am unrhyw gymorth newydd cyn gynted â phosib, cofiwch gofrestru ar gyfer cylchlythyr cefnogi busnes y Cyngor a’n dilyn @BusnesGwynedd
I fusnesau sydd yn derbyn bil Trethi Busnes (hyd yn oed nad oes os gofyn i dalu unrhyw beth) mae’r cymorth canlynol ar gael (wele'r canllawiau – nodwch nad ydynt wedi eu diweddaru yn dilyn cyflwyno Lefel Rhybudd 4):
Grant A
(i fusnesau wedi eu lleoli yn eiddo gyda gwerth trethadwy o £12,000 neu llai)
UN o’r canlynol:
- Taliad o £3,000 i fusnesau mae’r rheoliadau yn mynnu eu bod yn cau (wele'r canllawiau - nodwch nad ydynt wedi eu diweddaru yn dilyn cyflwyno Lefel Rhybudd 4).
Mae busnesau cymwys dderbyniodd cymorth o’r Grantiau Clo Bach yn ddiweddar eisioes wedi derbyn y taliad yma yn uniongyrchol – nid oes angen cyflwyno cais.
Os yn fusnes cymwys sydd ddim wedi derbyn taliad yn barod, allwch dal geisio am gymorth drwy gwblhau ffurflen cais syml – cliciwch isod i gyflwyno cais:
MAE'R GRONFA YMA BELLACH WEDI CAU.
- Taliad o £3,000 i fusnesau sy’n cyflenwi busnesau mae’n ofynnol iddynt gau sydd yn gallu dangos (ar sail hunan ddatgan) gostyngiad o 40% neu fwy yn eu trosiant o ganlyniad uniongyrchol i’r cyfyngiadau newydd.
Os yn gymwys, allwch ymgeisio drwy gwblhau ffurflen cais syml – cliciwch isod i gyflwyno cais:
MAE'R GRONFA YMA BELLACH WEDI CAU.
Grant B
(i fusnesau wedi eu lleoli yn eiddo gyda gwerth trethadwy rhwng £12,001 a £51,000)
UN o’r canlynol:
- Taliad o £5,000 i fusnesau mae’r rheoliadau yn mynnu eu bod yn cau (wele'r canllawiau - nodwch nad ydynt wedi eu diweddaru yn dilyn cyflwyno Lefel Rhybudd 4).
Mae busnesau cymwys dderbyniodd cymorth o’r Grantiau Clo Bach yn ddiweddar eisioes wedi derbyn y taliad yma yn uniongyrchol – nid oes angen cyflwyno cais.
Os yn fusnes cymwys sydd ddim wedi derbyn taliad yn barod, allwch dal geisio am gymorth drwy gwblhau ffurflen cais syml – cliciwch isod i gyflwyno cais:
MAE'R GRONFA YMA BELLACH WEDI CAU.
- Taliad o £5,000 i fusnesau sy’n cyflenwi busnesau mae’n ofynnol iddynt gau sydd yn gallu dangos (ar sail hunan ddatgan) gostyngiad o 40% neu fwy yn eu trosiant o ganlyniad uniongyrchol i’r cyfyngiadau newydd.
Os yn gymwys, allwch ymgeisio drwy gwblhau ffurflen cais syml – cliciwch isod i gyflwyno cais:
MAE'R GRONFA YMA BELLACH WEDI CAU.
Grant C
(i fusnesau wedi eu lleoli yn eiddo gyda gwerth trethadwy rhwng £51,001a £150,000)
UN o’r canlynol:
- Taliad o £5,000 i fusnesau mae’r rheoliadau yn mynnu eu bod yn cau (wele'r canllawiau - nodwch nad ydynt wedi eu diweddaru yn dilyn cyflwyno Lefel Rhybudd 4).
Bydd POB busnes cymwys yn y garfan yma angen cwblhau ffurflen cais syml - cliciwch isod i gyflwyno cais:
MAE'R GRONFA YMA BELLACH WEDI CAU.
- Taliad o £5,000 i fusnesau sy’n cyflenwi busnesau sydd wedi eu gorfodi i gau sydd yn gallu dangos (ar sail hunan ddatgan) gostyngiad o 40% neu fwy yn eu trosiant o ganlyniad uniongyrchol i’r cyfyngiadau newydd.
Os yn gymwys, allwch ymgeisio drwy gwblhau ffurflen cais syml – cliciwch isod i gyflwyno cais:
MAE'R GRONFA YMA BELLACH WEDI CAU.