Bod yn Gynghorydd

Rydym angen pob math o bobl yn Gynghorwyr yn y sir er mwyn cynrychioli pob congl o'r gymdeithas.

Fideo: Wyt ti wedi ystyried bod yn gynghorydd?


Mae llawer iawn o wybodaeth ddefnyddiol am rôl cynghorwyr, a'r gefnogaeth sydd ar gael ar wefan 'Byddwch yn Gynghorydd Cymru':

www.byddwchyngynghorydd.cymru

 

Be ydi gwaith cynghorydd?
Dyma ddau fideo byr sy'n egluro be ydi prif rôl Cynghorydd yng Ngwynedd

 

   

  • Ydych chi eisiau cynrychioli eich cymuned leol a helpu pobl leol?
  • Ydych chi eisiau defnyddio eich sgiliau i helpu eich cymuned leol?
  • Ydych chi'n pryderu am ddyfodol gwasanaethau lleol ac yn teimlo y gallwch fod yn lais ar ran eich cymuned?
  • Os hynny, efallai y dylech ystyried sefyll ar gyfer etholiad fel Cynghorydd lleol.

Mae Cyngor Gwynedd angen cynghorwyr lleol sydd ag amrywiaeth eang o sgiliau a diddordebau fydd yn adlewyrchu poblogaeth y sir.

Y rôl sylfaenol yw cynrychioli diddordebau eich pobl leol. Mae hyn yn golygu arwain yn y gymuned a helpu cynnal sgyrsiau rhwng trigolion a’r Cyngor.

Mae Cynghorwyr lleol yn chwarae rhan bwysig wrth ddatblygu polisïau – adnabod anghenion y gymuned, gosod amcanion i gwrdd â’r anghenion hynny, dewis rhwng y gwahanol alwadau sydd ar wasanaethau a dyrannu adnoddau. 

Bydd eich rôl yn amrywiol a diddorol iawn. Gall bod yn Gynghorydd gymryd llawer o amser. Eich dewis chi fydd maint yr ymrwymiad y byddwch yn ei roi i'r rôl. Byddwch mewn cyswllt cyson gyda thrigolion, busnesau a swyddogion y Cyngor. Bydd gofyn i chi baratoi ar gyfer cyfrannu mewn Pwyllgorau'r Cyngor.

Fel Cynghorydd byddwch yn rhan o dîm sy'n gyfrifol am roi pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth mae'r Cyngor yn ei wneud.

 

Gwybodaeth bellach

 

Cynhelir etholiadau ar gyfer holl ranbarthau etholiadol Cyngor Gwynedd bob pum mlynedd. 

Rydych yn ymgeisydd cymwys cyfreithiol os:

  • ydych yn o leiaf 18 oed ac ar y gofrestr etholiadol ar gyfer ardal Cyngor Gwynedd a bod eich cartref (yn y 12 mis diwethaf) yn y Sir NEU
  • eich bod yn gweithio yn y Sir (ac wedi gweithio yma ers 12 mis); NEU
  • rydych yn berchen ar eiddo yn y Sir (ers 12 mis).

Ni fyddech yn gymwys fel ymgeisydd os:

  • ydych yn fethdalwr, a bod Gorchymyn Cyfyngiadau Methdaliad (neu orchymyn dros dro) yn eich erbyn; NEU
  • eich bod wedi eich cael yn euog o gyflawni trosedd yn y pum mlynedd diwethaf      a'ch bod wedi eich dedfrydu i dri mis neu fwy yn y carchar; NEU
  • eich bod yn gweithio i Gyngor Gwynedd mewn swydd sydd â chyfyngiadau      gwleidyddol*.

*Rydych yn gymwys fel ymgeisydd os ydych yn gweithio i Gyngor Gwynedd (ac eithrio mewn swydd sydd â chyfyngiadau gwleidyddol, ond byddai’n rhaid i chi ymddiswyddo pe baech yn cael eich ethol.

Os ydych yn ansicr a ydych yn gymwys i sefyll, cewch arweiniad pellach safle Y Comisiwn Etholiadol:

Ymgeiswyr ac asiantau mewn etholiadau lleol yng Nghymru (gweler rhan 1)

Yr wyf wedi penderfynu sefyll etholiad. Beth sydd angen i mi wneud nawr?

Unwaith yr ydych wedi penderfynu sefyll etholiad, byddwch yn penderfynu sefyll naill ai fel cynghorydd annibynnol neu aelod o grŵp gwleidyddol.  Mae pleidiau gwleidyddol yn eich ardal leol yn barod yn chwilio am bobl sydd â diddordeb yn eu cynrychioli a byddant yn falch o glywed gennych. Byddant yn gallu eich cefnogi yn eich ymgyrch etholiad ac yn eich gwaith fel Cynghorydd.


Cysylltiadau ar gyfer cynorthwywyr gwleidyddol y prif bleidiau gwleidyddol presennol yng Nghyngor Gwynedd:-

Plaid Cymru –Joshua Kurtis Roberts, Swyddog Grŵp Gwleidyddol Plaid Cymru
E-bost: joshuakurtisroberts@gwynedd.llyw.cymru


Annibynnol - Delyth Ross, Swyddog Grŵp Gwleidyddol Annibynnol     
E-bost: delythwynross@gwynedd.llyw.cymru 
Ffôn: 01286 679017

Mae Cyngor Gwynedd yn awyddus i annog pobl o amrywiol gefndiroedd i sefyll yn yr etholiad.  Rydym hefyd wedi ymrwymo i gynnal ymgyrch etholiadol teg a pharchus, ac wedi datgan hynny ar y cyd gyda holl awdurdodau Cymru. 

 

 Gwybodaeth Bellach:

Fel cynghorydd newydd, gwahoddir chi i gymryd rhan mewn rhaglen anwytho a fydd yn rhoi cyflwyniad i chi ar sut mae’r Cyngor yn gweithio. Yn ogystal bydd rhaglen o sesiynau hyfforddiant yn cael ei gynnig i chi drwy gydol eich tymor fel Cynghorydd ar amrywiaeth o bynciau perthnasol. 

Mae swyddogion y Cyngor ar gael i’ch cefnogi chi mewn unrhyw ffordd o fewn eu gallu gyda chyngor am drefniadau’r Cyngor neu broblemau yn eich ward. 

Mae Swyddogion Gwasanaethau Democratiaeth ar gael i ateb unrhyw gwestiwn am gyfarfodydd y Cyngor.


Darpariaeth gyfrifiadurol

Mae holl waith y Cyngor yn cael ei wneud yn electronig ble mae’n bosib, ac o ganlyniad mae technoleg gwybodaeth yn rhan hanfodol o swydd Cynghorydd.  

Bydd cyfarpar cyfrifiadurol yn cael ei gynnig i chi yn ogystal a chyfrif a chyfeiriad e-bost ar gyfer gwaith y Cyngor. Cynigir hyfforddiant ar holl agweddau TG a sesiynau hyfforddiant 1-1 i unrhyw aelod sy’n dymuno, yn ychwanegol i’r ddesg gymorth sy’n ymdrin â phroblemau technegol.


Cyfarfodydd

Mae Cyngor Gwynedd yn gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg a bydd gwasanaeth cyfieithu ar gael ar gyfer pob cyfarfod.

Fel arfer cynhelir cyfarfodydd y Cyngor yn ystod oriau gwaith swyddfa.  Cynhelir Pwyllgorau y Cyngor drwy wahanol gyfryngau – hy. Wyneb i wyneb, yn rhithiol neu gyfuniad o’r ddau.

Caiff cyfarfodydd y Cyngor Llawn, Y Cabinet, y Pwyllgor Cynllunio ac unrhyw bwyllgor arall sy'n debygol o fod o ddiddordeb i’r cyhoedd eu gwe-ddarlledu. 

Cofnodir presenoldeb Cynghorwyr ym mhob cyfarfod ac yn eu gosod ar safle we’r Cyngor.  Mae’r safle we yn cynnwys enw, llun â manylion cyswllt pob Cynghorydd.

 

Darpariaeth ar gyfer Cynghorwyr anabl

Mae adeiladau’r Cyngor yn addas ar gyfer pobl anabl gyda lle parcio ar gyfer pobl anabl yn agos i’r adeiladau.  Mae lifft ym mhrif adeiladau’r Cyngor i gael mynediad i ystafelloedd cyfarfodydd ac mae darpariaeth arbennig ar gael pe bai angen gwagio adeilad mewn argyfwng.


Cyflog a Lwfansau

Mae Cynghorwyr yn derbyn cyflog am eu gwaith. Mae gan holl aelodau etholedig Awdurdodau Lleol Cymru hawl i gael cyflog blynyddol sylfaenol, a bydd y cyflog hwn yn cael ei dalu ar yr 22ain o bob mis. Mae Aelodau sydd â chyfrifoldebau ychwanegol, fel Aelod Cabinet neu Gadeirydd Pwyllgor, yn derbyn cyflogau uwch. Fe gaiff treuliau rhesymol eu talu hefyd.

Gall Cynghorydd hawlio ad-daliad costau gofal i ddarparu gofal i ddibynyddion pan fyddant yn ymgymryd â'u dyletswyddau; yn ogystal mae ganddynt hawl i dâl mamolaeth. Bydd costau gofal yn cael eu had-dalu i Gynghorwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu am blant neu oedolion dibynnol, neu ofynion gofal personol. Mae gan Aelodau hawl hefyd i ymuno a’r cynllun pensiwn Llywodraeth Leol.

Roedd newid yn ffiniau wardiau etholiadol ar gyfer Cyngor Gwynedd ym mis Mai 2022. 

Gweld map o'r wardiau etholiadol newydd

 

Am ragor o wybodaeth..

Os oes gennych ymholiad neu am fwy o wybodaeth ewch i: 

byddwchyngynghorydd.cymru

neu e-bostiwch: 
GwasanaethDemocratiaeth@gwynedd.llyw.cymru