Dangos Dogfen Adnabod i Bleidleisio
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi pasio deddf fydd yn newid y ffordd rydyn ni'n pleidleisio yn Etholiadau Senedd y Deyrnas Unedig ac Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu. Gelwir y ddeddf hon yn Ddeddf Etholiadau 2022.
Nid yw'r ddeddf hon yn berthnasol i Etholiadau Senedd Cymru, Cyngor Gwynedd na’r Cynghorau Cymuned. Llywodraeth Cymru sy'n gosod y ddeddfwriaeth ar gyfer y rhain.
Pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio
Bydd angen i chi ddangos dogfen adnabod â llun mewn gorsafoedd pleidleisio ar gyfer etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu ac etholiadau Senedd y Deyrnas Unedig (o fis Hydref 2023 ymlaen).
Y mathau o ddogfen adnabod â llun y gallwch chi eu defnyddio
- Rhaid i’r ddogfen adnabod â llun fod yn un gymeradwy, fel pasbort neu drwydded yrru.
- Derbynnir dogfennau gwreiddiol yn unig. Ni dderbynnir delweddau na chopïau wedi'u sganio.
- Os nad ydy eich dogfen adnabod â llun yn gyfredol, byddwn dal yn ei derbyn cyn belled â bod dal modd eich adnabod o’r llun.
Mae'r mathau o ddogfennau adnabod sy’n cael eu defnyddio a’u derbyn yn gyffredinol yn cynnwys:
- Pasbort a gyhoeddwyd gan y DU, unrhyw un o Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, Tiriogaeth Dramor Brydeinig, gwlad â statws Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) neu wlad yn y Gymanwlad
- Trwydded yrru ffotograffig a gyhoeddwyd gan y DU, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, gwladwriaeth AEE neu wlad yn y Gymanwlad
- Cerdyn adnabod ffotograffig yr AEE
- Cerdyn adnabod ag arno hologram y Cynllun Prawf Oed Safonol (cerdyn PASS)
- Bathodyn Glas
- Pàs Bws Person Hŷn
- Pàs Bws Person Anabl
- Cerdyn Oyster 60+
Os ydych yn ansicr a ydy’r ddogfen adnabod â llun sydd gennych ar hyn o bryd yn cael ei derbyn, gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am y mathau o ddogfennau adnabod sy'n cael eu derbyn ar wefan GOV.UK
Neu gallwch gysylltu â'n Tîm Gwasanaethau Etholiadol:
Yr hyn y dylech chi ei wneud os nad oes gennych ddogfen adnabod gymeradwy
Os nad oes gennych ddogfen adnabod gymeradwy, bydd angen i chi wneud cais am 'Dystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr' (TAP) sydd ar gael am ddim.
Neu gallwch gysylltu â'n Tîm Gwasanaethau Etholiadol i ofyn am ffurflen bapur.
Ar ôl i chi dderbyn eich TAP, ni fydd dyddiad dod i ben arni. Fodd bynnag, fe’ch cynghorir i adnewyddu eich TAP mewn 10 mlynedd i sicrhau bod y llun dal i edrych yn debyg i chi.
Y dyddiad cau i wneud cais am TAP fydd 5.00pm, chwe diwrnod gwaith cyn dyddiad yr etholiad.
Yr etholiad nesaf sydd wedi’i drefnu yng Ngwynedd lle bydd angen dangos dogfen adnabod â llun neu TAP i bleidleisio, fydd yr etholiad ar gyfer Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ym mis Mai 2024.
Pleidleisio trwy'r post neu drwy ddirprwy
Os ydych yn dewis pleidleisio drwy'r post, ni fydd hyn yn effeithio arnoch a byddwch yn derbyn eich papurau pleidleisio drwy'r post fel arfer.
Os ydych chi'n dewis pleidleisio trwy ddirprwy, yna bydd yn rhaid i'r sawl rydych chi wedi ymddiried ynddo i bleidleisio ar eich rhan ddangos ei ddogfen adnabod ei hunan sy’n cynnwys llun ohono. Os nad oes gan eich dirprwy ddogfen adnabod â llun, ni fydd yn derbyn y papur pleidleisio.
Newidiadau pellach i’r system etholiadol
Am fwy o wybodaeth am y ddeddf hon ewch i wefan y Comisiwn Etholiadaol