Help efo costau byw
Dyddiad: 08/11/2022
Cynhelir cyfres o ffeiriau gwybodaeth ledled Gwynedd i helpu pobl leol gyda costau byw.
Wrth i gostau byw godi’n uwch nag erioed, mae Cyngor Gwynedd yn gwneud popeth o fewn ei allu i helpu pobl leol ddygymod â’r argyfwng y gaeaf hwn. Mae’r Cyngor yn awyddus i sicrhau fod pobl leol yn derbyn yr holl gymorth, cefnogaeth a chyngor ymarferol maent yn gymwys amdano.
Trefnwyd y sesiynau hyn a chrëwyd tudalen benodol ar wefan y Cyngor www.gwynedd.llyw.cymru/CymorthCostauByw gyda’r bwriad o ddarparu cymorth ymarferol i bobl Gwynedd.
Bydd mwy na dwsin o wasanaethau a sefydliadau gwahanol yn cael eu cynrychioli yn ystod y sesiwn galw heibio, gan gynnwys:
- Cyngor Gwynedd – cyngor am fudd-daliadau, biliau ynni, chwilio am waith, gwasanaethau ieuenctid, cymorth i deuluoedd sydd efo plant.
- Nyth – Gwasanaeth Llywodraeth Cymru i gynghori pobl am gynhesu eu cartrefi.
- Gwasanaeth Gwaith a Phensiwn y Llywodraeth.
- Scottish Power
- Cymdeithasau Tai Adra, Grŵp Cynefin a Tai Gogledd Cymru.
- Dŵr Cymru.
- Cyngor ar Bopeth (CAB).
- Y Dref Werdd – Menter gymdeithasol yn gweithio er budd yr amgylchedd a’r gymuned.
Bydd y ffair wybodaeth yn ymweld a’r lleoliadau canlynol:
- Canolfan Hamdden Dolgellau – 8/11/2022, 3.30-5.30pm.
- Neuadd Goffa Penrhyndeudraeth – 15/11/2022, 9.30am-2.30pm.
- Neuadd Goffa Harlech – 22/11/2022, 3.30-6.30pm.
- Canolfan Nefyn – 24/11/2022, 9.30-11.30am.
- Coed Mawr, Bangor – 29/11/2022, 3.30-6.30pm.
- Canolfan Talysarn – 6/12/2022, 3.30-6.30pm.
- Noddfa, Caernarfon – 08/12/2022, 3.30-630pm.
- Tŷ Elidir, Deiniolen – 13/12/2022, 3.30-6.30pm.