Cyngor Gwynedd yn nodi Diwrnod Rhuban Gwyn ar 25 Tachwedd
Dyddiad: 23/11/2022
Mae Cyngor Gwynedd yn nodi diwrnod rhyngwladol yr ymgyrch i ddileu trais yn erbyn merched a genethod, a hynny am y tro cyntaf ers dod yn sefydliad achrededig Rhuban Gwyn.
Elusen i annog ac addysgu dynion a bechgyn i ddod â thrais yn erbyn menywod i ben ydi Rhuban Gwyn acfel rhan o’r achrediad mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i weithio i’r diben yma.
Fel awdurdod lleol, mae’r Cyngor yn gyfrifol am iechyd a lles staff a’r gymuned ehangach, ac mae gwerthoedd ymgyrch Rhuban Gwyn yn ganolog i hyn.
Dywedodd y Cynghorydd Menna Jones, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd sy’n gyfrifol am faes Adnoddau Dynol: “Mae gan Gyngor Gwynedd enw da fel lle da i weithio gydag awyrgylch gyfeillgar a chefnogol. Mae ennill yr achrediad hwn yn dangos ein bod yn cymryd mater trais yn erbyn menywod o ddifri ac yn defnyddio ein safle i ddylanwadu a gwneud gwahaniaeth yn fewnol ac yn allanol.
“Drwy ymgysylltu â dynion a bechgyn – sy’n staff neu’n ddefnyddwyr gwasanaeth – gallwn godi ymwybyddiaeth a newid diwylliant am yr angen i sicrhau diogelwch ac urddas merched.”
Eleni, mae Diwrnod Rhuban Gwyn yn disgyn ar yr un wythnos â lansio Cwpan y Byd pêl-droed, gan ganolbwyntio ar y daioni sy’n gallu dod o uno a chefnogi un achos cyffredin.
Am fwy o wybodaeth am yr ymgyrch Rhuban Gwyn, ewch i’w gwefan: White Ribbon UK
Llun: Aelodau Cabinet Cyngor Gwynedd yn dangos eu cefnogaeth i’r ymgyrch.