Roedd Diwrnod Busnes Cyngor Gwynedd yn gyfle unigryw i fusnesau a sefydliadau sy’n gweithredu yng Ngwynedd ddod at ei gilydd i gwrdd, dysgu a rhannu a datblygu syniadau a strategaethau newydd.
Roedd y digwyddiad yn cynnig trosolwg o hinsawdd busnes yn Ngwynedd, yn ogystal â throsolwg o’r math o gymorth sydd ar gael i fusnesau wrth iddynt lywio’r heriau sy’n eu wynebu.
- Roedd bore’r digwyddiad yn canolbwyntio ar 3 busnes lleol, gan rannu straeon am yr heriau maent wedi wynebu a’r cyfleon sydd wedi codi drwy fod yn arloesol.
- Roedd sesiwn y prynhawn yn canolbwyntio ar y cymorth ymarferol sydd ar gael gan sefydliadau cymorth busnes yng Ngwynedd.
Yn y bore roedd cyfle i glywed straeon 3 busnes lleol o sut maent wedi delio hefo heriau a wynebwyd yn yr blynyddoedd diwethaf ac sut maent wedi ffeindio ffyrdd arloesol i barhau hefo ei busnesau.
- Harlech Foodservice
- Tanya Whitebits
- Pant Du
Yn yr prynhawn roedd gyfle i glywed am yr hinsawdd fusnes gan Dr Edward Jones, darlithydd mewn Economeg o Brifysgol Bangor ac yr sefydliadau cymorth isod ynglŷn a sut all nhw rhoid cymorth ymarferol i fusnesau yn Ngwynedd, gan gynnwys gwybodaeth ynglŷn a grantiau cymorth busnes gan Cyngor Gwynedd.
- Busnes Cymru
- Busnes@ Llandrillo Menai
- Banc Datblygol Cymru
- Purple Shoots
- Tim Cymorth Busnes Cyngor Gwynedd
Roedd y sefydliadau isod gyda stondinau yn yr digwyddiad ac ar gael i gynnig cymorth ac gwybodaeth ynglŷn a’i gwasanaethau.
- Gwaith Gwynedd
- Byw’n Iach
- Hwb Menter
- Busnes@ Llandrillo Menai
- ARFOR